Dim Bwystfilod!

Dim Bwystfilod!

Vendor
Tracey Hammett a Jan McCafferty
Regular price
£7.99
Sale price
£7.99
Regular price
Sold out
Unit price
per 

Tax included.

For UK deliveries shipping is calculated at checkout. For International deliveries check shipping options here. We currently offer international delivery to the following territories: Europe, United States, Canada, Australia and New Zealand.

Oed 3-5 | Clawr meddal | 32 tudalen | 250 x 200mm
Cyhoeddiad Mawrth 2021 | ISBN 9781913733452

Mae pob ysgol angen ei bwystfil ei hun!

Pan ddaw bwystfil i ymuno ag Ysgol y Dref, mae’r plant wrth eu boddau â’i ddrygioni chwareus.

Ond yn fuan iawn mae’n achosi anhrefn a helynt, ac mae Miss a Syr yn dweud bod rhaid iddo fynd. All y plant eu perswadio na fydd yr ysgol yr un fath heb eu ffrind fflwffiog?

Mae Tracy Hammet yn awdur a anwyd yng Nghymru, sy’n rhannu ei hamser rhwng Caerdydd a Llundain. Mynychodd Ysgol Uwchradd Whitchurch, Caerdydd, ac astudiodd Saesneg a Theatr yng Ngholeg Goldsmiths, Llundain. Mae Tracy wedi ysgrifennu nifer o straeon, sgriptiau a cherddi ar gyfer teledu a radio plant y BBC, gan gynnwys sawl rhaglen a enwebwyd ac sydd wedi ennill gwobrau BAFTA, ac mae’n hoffi cyfuno ei chariad at eiriau, straeon ac odli gyda thalp hael o hiwmor ac ymwybyddiaeth o faterion cymdeithasol ac amgylcheddol.

Mae Jan McCafferty yn ddarlunydd llyfrau plant profiadol sydd bellach yn byw ym Manceinion, ar ôl astudio Dylunio Graffig a Darlunio ym Mhrifysgol Canol Lloegr. Mae ei darluniau ar gyfer llyfrau plant llwyddiannus eraill yn cynnwys The Enchanted Wood, cyfres Oliver Moon a chyfres Kid Cowboy.