Mali a’r Cyfnod Clo
Mali a’r Cyfnod Clo
Mali a’r Cyfnod Clo
Mali a’r Cyfnod Clo
Mali a’r Cyfnod Clo
  • Load image into Gallery viewer, Mali a’r Cyfnod Clo
  • Load image into Gallery viewer, Mali a’r Cyfnod Clo
  • Load image into Gallery viewer, Mali a’r Cyfnod Clo
  • Load image into Gallery viewer, Mali a’r Cyfnod Clo
  • Load image into Gallery viewer, Mali a’r Cyfnod Clo

Mali a’r Cyfnod Clo

Vendor
Malachy Doyle ac Andrew Whitson
Regular price
£7.99
Sale price
£7.99
Regular price
Sold out
Unit price
per 
Tax included. Shipping calculated at checkout.

 

Oed 5-7 | Clawr meddal | 32 tudalen | 250 x 250mm
Cyhoeddwyd Mawrth 2021 | ISBN 9781914079405

Gan ddefnyddio cymeriadau o gyfres lwyddiannus Mali, mae Malachy Doyle yn dangos sut mae Mali a’r ynyswyr eraill yn ymdopi â’r cloi mawr, fel y cloi presennol sy’n wynebu pawb yn y DU. Gwna Mali bosau jig-so, mae’n ymarfer canu’r ffidil ac yn gofalu am yr anifeiliaid anwes tra bod ei mam yn helpu’r ynyswyr eraill, a’i thad yn methu dychwelyd o’r tir mawr. Mewn cydweithrediad â’r cyhoeddwr yn Iwerddon, An tSnáthaid Mhór, bydd y stori’n cael ei chyhoeddi mewn tair iaith ar yr un pryd: Cymraeg, Gwyddeleg a Saesneg.

Llyfrau yn y gyfres:

Mae dros gant o lyfrau Malachy Doyle wedi cael eu cyhoeddi, o lyfrau bwrdd i’r plant lleiaf i nofelau afaelgar i ddarllenwyr yn eu harddegau. Mae wedi ennill nifer o wobrau pwysig, ac mae ei lyfrau wedi’u cyfieithu i ryw ddeg ar hugain o ieithoedd. Yn ogystal â’r ddwy stori flaenorol yng nghyfres Mali, Mali a’r Môr Stormus, Mali a’r Goleudy a Mali a’r Morfil, rhai o’i deitlau diweddar eraill yw Miracle of Hanukkah, Rama and Sita, Jack and the Jungle a Big Bad Biteasaurus (Bloomsbury), Fug and the Thumps (Firefly), Cinderfella (Walker Books) a Ootch Cootch (Graffeg), wedi’i ddarlunio gan ei ferch, Hannah Doyle. Daw Andrew Whitson o Belfast ac mae’n artist arobryn sy’n hoffi cael ei alw’n Mr Ando! Mae Mr Ando wedi darlunio dros ugain o lyfrau o dan ei enw ei hun. Y diweddaraf o’r rhain yw llyfrau cyfres Mali gyda Malachy Doyle, a chyfres arobryn Rita, sef llyfrau stori-a-llun, gyda Myra Zepf.