Arglwydd y Fforest
Arglwydd y Fforest
Arglwydd y Fforest
Arglwydd y Fforest
Arglwydd y Fforest
Arglwydd y Fforest
Arglwydd y Fforest
  • Load image into Gallery viewer, Arglwydd y Fforest
  • Load image into Gallery viewer, Arglwydd y Fforest
  • Load image into Gallery viewer, Arglwydd y Fforest
  • Load image into Gallery viewer, Arglwydd y Fforest
  • Load image into Gallery viewer, Arglwydd y Fforest
  • Load image into Gallery viewer, Arglwydd y Fforest
  • Load image into Gallery viewer, Arglwydd y Fforest

Arglwydd y Fforest

Vendor
Caroline Pitcher, Jackie Morris a Mererid Hopwood
Regular price
£20.00
Sale price
£20.00
Regular price
Sold out
Unit price
per 

Tax included.

For UK deliveries shipping is calculated at checkout. For International deliveries check shipping options here. We currently offer international delivery to the following territories: Europe, United States, Canada, Australia and New Zealand.


Clawr caled | Oed 5-7 | 24 tudalen | 365 x 270mm
Cyhoeddwyd Medi 2022 | ISBN 9781802581980

Y mae popeth mae Teigr bach yn ei glywed yn newydd ac yn gyffrous. Pan mae’n dweud wrth ei fam am y synau o’i gwmpas mae hi’n ei atgoffa ‘Pan na fyddi di’n eu clywed, bryd hynny, fy mab, bydd barod. Bydd Arglwydd y Fforest yma!’ Ond pwy yw Arglwydd y Fforest, a phryd bydd Teigr yn gwybod?

Mae Caroline Pitcher yn awdur arobryn sy’n dathlu trwy ysgrifennu, fel byw bywyd ddwywaith. Mae hi wedi ysgrifennu llawer o nofelau a straeon, gan gynnwys y llyfrau lluniau The Snow Whale, The Time of the Lion, Mariana and the Merchild, Nico’s Octopus, The Littlest Owl, Time For Bed, Home Sweet Home a The Winter Dragon.

Mae Jackie Morris yn arlunydd, yn awdur ac yn beintiwr. Mae’n byw ac yn gweithio yng Nghymru ac mae ei gwaith yn cael ei lywio a’i ysbrydoli gan leoedd a chreaduriaid gwyllt. Mae ei llyfrau yn cynnwys The Lost Words, a grëwyd ar y cyd â Robert Macfarlane ac a dderbyniodd gwobr The Greenaway Award am ddarlunio, a’i haddaswyd i’r Gymraeg gan Mererid Hopwood, Geiriau Diflanedig, The Lost Spells, hefyd gyda Macfarlane a How The Whale Became wedi’i ysgrifennu gan Ted Hughes.

Enillodd Mererid Hopwood Gadair, Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol. Derbyniodd hefyd wobr Llyfr y Flwyddyn am Farddoniaeth Gymraeg a Gwobr Tir na n-Og am nofel i blant.

Adolygiadau: 

'Mae'r iaith disgrifiol a chyffelybiaethau bywiog yn y llyfr A3 yma yn dod a Teigr a'r fforest i fywyd.' - Early Years Educator

'Mae pob plenty yn mynd i fwynhau'r antur yma.' - Book Read 2 Day

'Cymaint o hwyl i ddarllen ar lafar, mae'r llyfr ma yn un i ychwanegu at silffoedd teuluol a dosbarthiadau.' - Jill Bennett, Red Reading Hub

'Mae rhai o lyfrau yn cymryd eich anadl i ffwrdd yn llwyr, a dyma un ohonynt.' - Lucy Owen

'Stori hyfryd a thelynegol amdano hunaniaeth.' - Raising Bookworms