Skip to product information
1 of 5

Copyn yn Achub y Byd

Copyn yn Achub y Byd

Haf Llewelyn a James Munro

SKU:9781805951971

Regular price £7.99
Regular price Sale price £7.99
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.

Content

Mae’r plant yn mynd i weld ffilm am Copyn. Ond mae sŵn yn dod o’r lifft ac mae’r drws yn sownd!

Dyma lyfr llawn hwyl a chymeriadau cyfeillgar sydd yn ein helpu i ddysgu. Gyda darluniau anhygoel James Munro, mae’r stori yn dod i fyw a mi fydd y cymeriadau yn teimlo fel ffrindiau go iawn.

Cyfres Llamu – Llyfrau darllen

Llyfrau darllen er pleser i blant 7–12 oed sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Llyfrau gwreiddiol Cymraeg, wedi eu monitro gan arbenigwyr ADY, a’u treialu mewn ysgolion a chanolfannau arbennig. Hefyd yn addas i blant sy’n dysgu Cymraeg.

Mae llyfrau’r gyfres yn dilyn Cynllun Darllen ADY Cenedlaethol, ar gamau 5, 6, a 7. Mae’r teitl hwn ar Gam 6 o’r Cynllun Darllen ADY.

Mae cod QR yng nghefn y llyfr, sy’n arwain at recordiad o’r awdur yn ei ddarllen.

Mae Canllaw i Athrawon a Rhieni, ac adnoddau i gyd-fynd â’r llyfr, hefyd ar gael ar Hwb Llywodraeth Cymru.

Product Details

Publication date: 02-Mawrth-2027

Format: Clawr Meddal

Product size: 198 x 129mm

Pages: 96

 Age Range: 7-12

About the Author / Illustrator

Haf Llewelyn

Magwyd Haf Llewelyn ar fferm fynyddig yn Ardudwy, ond mae’n byw yn Llanuwchllyn ers bron i ddeng mlynedd ar hugain bellach. Mae’n awdures nofelau i oedolion ac i blant – enillodd Diffodd y Sêr wobr Tir na n-Og yn 2014. Mae hefyd yn barddoni.

James Munro

Mae James Munro wedi bod yn darlunio ers iddo allu dal pensil. Ers hynny, mae e wedi darlunio llyfrau, cylchgronau, ffilmiau ac animeiddiadau. Mae e’n byw yn Lerpwl gyda’i bensiliau a’i inc.

View full details