Skip to product information
1 of 5

Amy Rose & Dr Emma Cotterill

Ymdopi Fel Mam Sengl

Ymdopi Fel Mam Sengl

SKU:9781805950417

Regular price £12.99
Regular price Sale price £12.99
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.

Content

P’un a yw dy berthynas newydd ddod i ben neu dy fod wedi bod ar dy ben dy hun ers tro byd, mae bod yn rhiant sengl yn dy flino’n emosiynol (a dweud y lleiaf) – ac mae’n aml yn ergyd galed i dy iechyd meddwl. A dyna lle bydd Ymdopi fel Mam Sengl yn help llaw i ti.

Yn y llyfr hwn, mae’r newyddiadurwraig Amy Rose a’r seicolegydd clinigol Dr Emma Cotterill yn bwrw golwg ar rai o’r emosiynau anodd y gallet eu profi, gan gynnwys galar, dicter, cywilydd, euogrwydd, gorbryder ac iselder. Maen nhw’n dangos i ti sut i symud dy iechyd meddwl i le gwell, mwy cadarn.

Gyda chymorth profiadau mamau sengl eraill, maen nhw’n nodi pa mor gyffredin yw hi i’w chael hi’n anodd – ac yn dangos nad wyt ti ar dy ben dy hun. Mae Amy a Dr Emma hefyd yn dathlu’r cadarnhaol – gan dy annog i chwilio am lawenydd, i gofleidio dy annibyniaeth ac i ddarganfod fersiwn newydd sbon ohonot ti dy hun. Os yw dy iechyd meddwl yn teimlo’n frau, bydd y llyfr hwn yn help mawr i ti weithio drwy’r stwff caled, ac i ymdopi, a ffynnu, fel mam sengl.

Product Details

Publication date: September 2025

Format: Paperback

Product size: 216 x 135

Pages: 304

Suggested Age Range: Adult

About the Author / Illustrator

Mae’r newyddiadurwraig Amy Rose yn cofnodi ei thaith fel mam sengl a’i hechyd meddwl ar Instagram ac yn grymuso menywod eraill mewn sefyllfaoedd tebyg.

Mae’r seicolegydd clinigol Dr Emma Cotterill yn angerddol ynglŷn ag addysg iechyd meddwl a chefnogi lles.

View full details