Skip to product information
1 of 4
Fy Bindi Fy Bindi

Gita Varadarajan, Archana Sreenivasan a Anwen Pierce

SKU:9781802587104

Regular price £12.99
Regular price Sale price £12.99
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.

Content


Daeth y diwrnod i Divya ddewis ei bindi. Ond wrth iddi baratoi i fynd i’r ysgol, mae’r amheuon yn dechrau dod. A fydd hi’n ddigon dewr i wynebu’r disgyblion eraill a’u cwestiynau? Sut fydd ei bindi’n teimlo? Yn y stori rymus hon am hunanddarganfod, mae merch ifanc yn dod o hyd i ddewrder y tu mewn iddi hi ei hun, ac mae’n dysgu sut i ddathlu ei chefndir a phwy yw hi go iawn.

Product Details

Publication date: Chwefror 2025

Format: Clawr meddal

Product size: 250 x 200mm

Pages:

Suggested Age Range: 3-5

About the Author / Illustrator

Cafodd Gita Varadarajan ei geni a’i magu yn India. Mae hi wedi gweithio gyda phlant ledled y byd, ac mae bellach yn dysgu ail radd yn Princeton, New Jersey. Save Me a Seat, a ysgrifennwyd gyda Sarah Weeks, oedd ei nofel gyntaf.

Mae Archana Sreenivasan yn ddarlunydd llawrydd wedi’i lleoli yn Bangalore, India. Mae ei darluniau wedi cael eu cyhoeddi mewn cylchgronau, llyfrau plant, cloriau llyfrau, a chomics. Y byd naturiol a gwylio pobl sydd fwyaf ysbrydoledig ac atyniadol iddi hi.

 

View full details