Skip to product information
1 of 6

Malachy Doyle and Andrew Whitson

Mali a'r Goleudy

Mali a'r Goleudy

SKU:9781914079306

Regular price £7.99
Regular price Sale price £7.99
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Title

Content

Mae Mali’n deffro yn y nos gan wybod bod rhywbeth o’i le – rhywbeth mawr. Mae’r goleudy y tu allan i’w ffenest yn dywyll fel y fagddu. Heb ei belydryn, sut gall ei thad, sydd allan yn pysgota ar y môr tywyll yn ei gwch bach coch, ddod yn ôl i’r harbwr yn ddiogel? Rhaid i Mali ailgynnau’r golau … ar unwaith!

Stori gynnes, lawn cyffro, am gariad, dewrder a dyfalbarhad.

Llyfrau yn y gyfres:

Product Details

Publication date:

Format: Clawr caled

Product size: 250 x 250mm

Pages:

Suggested Age Range: 5-7

About the Author / Illustrator

Mae dros gant o lyfrau Malachy Doyl wedi cael eu cyhoeddi, o lyfrau bwrdd i’r plant lleiaf i nofelau afaelgar i ddarllenwyr yn eu harddegau. Mae wedi ennill nifer o wobrau pwysig, ac mae ei lyfrau wedi’u cyfieithu i ryw ddeg ar hugain o ieithoedd. Yn ogystal â’r ddwy stori flaenorol yng nghyfres Mali, Mali a’r Môr Stormus, Mali a’r Goleudy a Mali a’r Morfil, rhai o’i deitlau diweddar eraill yw Miracle of Hanukkah, Rama and Sita, Jack and the Jungle a Big Bad Biteasaurus (Bloomsbury), Fug and the Thumps (Firefly), Cinderfella (Walker Books) a Ootch Cootch (Graffeg), wedi’i ddarlunio gan ei ferch, Hannah Doyle.

Daw Andrew Whitson o Belfast ac mae’n artist arobryn sy’n hoffi cael ei alw’n Mr Ando! Mae Mr Ando wedi darlunio dros ugain o lyfrau o dan ei enw ei hun. Y diweddaraf o’r rhain yw llyfrau cyfres Mali gyda Malachy Doyle, a chyfres arobryn Rita, sef llyfrau stori-a-llun, gyda Myra Zepf.

View full details