Skip to product information
1 of 3

Richard O’Neill, Feronia Parker Thomas a Anwen Pierce

Polonius Merlyn y Pwll Glo

Polonius Merlyn y Pwll Glo

SKU:9781802587111

Regular price £7.99
Regular price Sale price £7.99
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.

Content


Pan fydd Polonius y merlyn yn dianc o’r pwll glo lle mae wedi bod yn gweithio gydol ei oes, mae’n ymuno â theulu o Deithwyr. Wrth iddo fwynhau’r awyr iach a’r rhyddid yn eu cwmni, mae Polonius am roi rhywbeth yn ôl i’r teulu am ofalu amdano. Pan ddaw’r cyfle iddo eu helpu, mae Polonius yn defnyddio ei glyfrwch a’i sgiliau i achub y dydd. Wedi ei seilio ar ddigwyddiadau go iawn a’i adrodd gan storïwr penigamp, mae’r hanes yma’n dangos gwir werthoedd y Teithwyr – eu hannibyniaeth, eu dyfeisgarwch, eu dewrder a’u parodrwydd i weithio’n galed.

Product Details

Publication date: Chwefror 2025

Format: Clawr meddal

Product size: 268 x 245mm

Pages: 36

Suggested Age Range: 4-9

About the Author / Illustrator

Cafodd Richard O’Neill ei enu a’i fagu mewn teulu mawr Romani traddodiadol yng Ngogledd Lloegr. Mae’n storïwr ac awdur arobryn sy’n adrodd ei storiâu gwreiddiol mewn ysgolion, amgueddfeydd, llyfrgelloedd a theatrau ar draws y DU.

Mae’n storïwr chweched genhedlaeth, a dyfodd i fyny mewn traddodiad llafar egnïol o adrodd straeon, gan ddysgu ei sgiliau gan rai o storïwyr Teithiol gorau Lloegr, yr Alban, Iwerddon a Chymru. Mae Richard yn awdur o un ar ddeg o lyfrau plant, ac mae ei straeon a’i ddramâu wedi cael eu darlledu ar radio BBC. Mae ei straeon digidol wedi eu mwynhau ledled y byd, ac yn 2013, ef oedd derbynydd y wobr National Literacy Hero.

View full details