Skip to product information
1 of 3
Sut i Helpu Rhywun ag Iselder Ôl-enedigol Sut i Helpu Rhywun ag Iselder Ôl-enedigol

Dr Jenn Cooper

SKU:9781805950400

Regular price £10.99
Regular price Sale price £10.99
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.

Content

Os ydych chi’n gwylio partner, merch, chwaer neu ffrind yn brwydro drwy’r hyn sy’n edrych fel iselder ôl-enedigol (PND) neu iselder ôl-esgor (PPD), mae’n bosib y byddwch chi’n teimlo’n ddiymadferth.

Mae’r llawlyfr ymarferol hwn yn dangos i chi sut i gefnogi eich anwylyd yn y cyfnod anodd hwn a sut y gallwch chi chwarae rôl hollbwysig wrth leddfu ei gofid. Bydd y seicolegydd a’r arbenigwr iechyd meddwl mamau, Dr Jenn Cooper, yn eich arfogi â gwybodaeth a strategaethau ymarferol fel y gallwch chi: 

•Adnabod symptomau iselder ôl-enedigol ac iselder ôl-esgor a datblygu dealltwriaeth fanwl o’r hyn y mae eich anwylyd yn ei brofi

• Darparu cefnogaeth emosiynol, awgrymu ffyrdd o oresgyn meddyliau pryderus a beirniadol, a herio ymddygiad di-fudd

• Annog eich anwylyd i greu cwlwm a chysylltiad â’i babi

• Helpu gydag ochr ymarferol byw gyda babi bach – mewn ffyrdd buddiol nad ydyn nhw’n ei dadrymuso

• Gwybod pryd mae angen cymorth proffesiynol, a helpu eich anwylyd i gael gafael ar y cymorth hwnnw

• Deall pwysigrwydd gofalu amdanoch chi eich hun hefyd – yn enwedig os mai chi yw’r partner

Product Details

Publication date: August 2025

Format: Paperback

Product size: 190 x 135

Pages: 256

Suggested Age Range: Adult

About the Author / Illustrator

Bydd y llyfr hwn yn eich helpu i fod yn gefn i famau sy’n profi iselder ôl-enedigol/ôl-esgor a’u helpu i fwynhau bod yn fam yn y ffordd maen nhw’n ei haeddu. 

Mae Dr Jenn Cooper yn seicolegydd cwnsela siartredig profiadol sy’n arbenigo ym maes iechyd meddwl mamau er mwyn iddyn nhw allu adennill y llawenydd o fod yn fam.

View full details