Skip to product information
1 of 9

Charlie Mackesy a Mererid Hopwood

Y Bachgen, y Wahadden, y Llwynog a’r Ceffyl

Y Bachgen, y Wahadden, y Llwynog a’r Ceffyl

SKU:9781914079597

Regular price £16.99
Regular price Sale price £16.99
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.

Content

Darganfyddwch lyfr arbennig iawn sydd wedi dal calonnau miliynau o ddarllenwyr ledled y byd.

Wedi'i addasu o un o lyfrau mwyaf adnabyddus y ddwy flynedd ddiwethaf, maeY Bachgen, y Wahadden, y Llwynog a'r Ceffylyn fynegiant o gyfeillgarwch, caredigrwydd a thosturi rhwng pedwar cydymaith annhebygol. Yn llawn lluniau a thestun hardd, a grëwyd yn wreiddiol gan Charlie Mackesy ac sydd bellach wedi'i gyfieithu i'r Gymraeg gan Mererid Hopwood, mae'r testun unigryw hwn wedi taro tant â darllenwyr ledled y byd gyda'i wersi bywyd tyner sy'n ein atgoffa o bŵer cyfeillgarwch yng nghanol byd blith-draphlith. Wedi'i gyhoeddi yn gyntaf yn 2019 gan Penguin, mae'r llyfr hwn wedi mynd ymlaen i ddominyddu gwerthiant llyfrau ledled y byd, gan werthu dros filiwn o gopïau a chael ei gyfieithu i 22 iaith.

Product Details

Publication date: Medi 2021

Format: Clawr caled

Product size: 215 x 165mm

Pages: 128

Suggested Age Range:

About the Author / Illustrator

Ganed Charlie Mackesy yn ystod gaeaf oer iawn o eira yn Northumberland. Dechreuodd Charlie fel cartwnydd i The Spectator a darlunydd llyfrau ar gyfer Gwasg Prifysgol Rhydychen cyn cael ei gymryd ymlaen gan orielau. Arddangosodd darluniau yn gyntaf yn Llundain, yn The Park Walk Gallery, ac ers
hynny mae wedi arddangos mewn orielau yn Efrog Newydd, Llundain a Chaeredin. Mae gwaith Charlie yn ymddangos mewn llyfrau, casgliadau preifat a mannau cyhoeddus, gan gynnwys Mynwent Highgate yn Llundain, mewn ysbytai, carchardai, eglwysi a cholegau prifysgol ledled y DU, ac mewn tai diogel menywod ledled y byd. Un o’i amseroedd hapusaf oedd gwneud lluniadau i Richard Curtis ar set Love Actually fel y gallent ymddangos mewn ocsiwn ar gyfer Comic Relief. Cynhyrchodd ‘The Unity Series’, set gydweithredol o lithograffau gyda Nelson Mandela yn 2006. Mae ei daith gyda The boy, the mole, the fox and the horse wedi cymryd drosodd ei fywyd. Mae’n byw yn eu byd nhw lawer o’r amser ac mae wedi bod wrth ei fodd yn llunio’r llyfr. Bydd eu hanturiaethau yn parhau.

Mae Mererid Hopwood wedi ysgrifennu, golygu a throsi nifer o weithiau i blant, gan gynnwys cyfres nofelau Miss Prydderch, Fy Llyfr Englynion a Geiriau Diflanedig, sef trosiad o waith Rob Macfarlane gyda darluniadau gan Jackie Morris.

Reviews

‘Mae gofyn i fi fyw yn y byd hwn, ond y byd yr hoffwn i fyw ynddo yw’r byd a greodd Charlie Mackesy.’ – Elizabeth Gilbert‘Cariad, cyfeillgarwch a charedigrwydd – mae’r llyfr hwn yn siarad iaith yr oesoedd.’ – Bear Grylls‘Campwaith celf rhyfeddol a ffenest ryfeddol ar galon y ddynolryw.’ – Richard Curtis

‘Yn syml, mae angen gwaith Charlie ar y byd, a hynny nawr.’ – Miranda Hart

Ganed Charlie M

View full details