Skip to product information
1 of 7

Cofia Hyd Byth - Y Bachgen, Y Wahadden, Y Llwynog, Y Ceffyl a'r Storm

Cofia Hyd Byth - Y Bachgen, Y Wahadden, Y Llwynog, Y Ceffyl a'r Storm

Charlie Mackesy a Mererid Hopwood

SKU:9781805952411

Regular price £22.00
Regular price Sale price £22.00
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.

Content

Darganfyddwch lyfr arbennig iawn sydd wedi dal calonnau miliynau o ddarllenwyr ledled y byd.

Wedi’i addasu o un o lyfrau mwyaf adnabyddus y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Cofia Hyd Byth: Y Bachgen, y Wahadden, y Llwynog, y Ceffyl a’r Storm yn fynegiant o gyfeillgarwch, caredigrwydd a thosturi rhwng pedwar cydymaith annhebygol yn ystod amseroedd ansicr ac ofnus. Yn llawn lluniau a thestun hardd, a grewyd yn wreiddiol gan Charlie Mackesy ac sydd bellach wedi’i gyfieithu i’r Gymraeg gan Mererid Hopwood.Mae’r testun unigryw hwn wedi taro tant darllenwyr ledled y byd gyda’i wersi bywyd tyner sy’n ein atgoffa o bwer cyfeillgarwch yng nghanol byd blithdraphlith.

Product Details

Publication date: 17 - Medi - 2026

Format: Clawr caled

Product size: 220 x 170mm

Pages: 128

Age Range: All ages

About the Author / Illustrator

Darliunydd, dylunydd as awdur Prydeinig, mi wnaeth Charlie Mackesy ddechrau ei yrfa fel darlunydd cartwn cyn iddo ddod yn dylunydd. Mae ei waith wedi ennill gwobrau ar draws y byd, a chafodd ei lyfr gyntaf Y Bachgen, y Wahadden, y Llwynog a’r Ceffyl, a gyhoeddwyd yn 2019, ei gyfieithu mewn i 40 ieuthoedd wahanol. Cafodd y fersiwn gymraeg ei gyhoeddi gan Graffeg yn 2021, gyda Mererid Hopwood fel cyfieithydd.

Mae Mererid Hopwood yn Athro y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae hi wedi cyfieithu nifer o destunau i’r Gymraeg ac mae hi wedi ennill y Gadair, Y Goron a’r Fedal Rhyddiaeth yn yr Eisteddfod, ac ennillodd Gwobr Llyfr y Flwyddyn am ei farddoniaeth yn 2016. Yn gyn-Children’s Laureate Wales, mi wnaeth hi hefyd ennill wobr Hay Festival Poetry Medal yn 2023.

Reviews

‘Mae gofyn i fi fyw yn y byd hwn, ond y byd yr hoffwn i fyw ynddo yw’r byd a greodd Charlie Mackesy.’ – Elizabeth Gilbert‘Cariad, cyfeillgarwch a charedigrwydd – mae’r llyfr hwn yn siarad iaith yr oesoedd.’ – Bear Grylls‘Campwaith celf rhyfeddol a ffenest ryfeddol ar galon y ddynolryw.’ – Richard Curtis

‘Yn syml, mae angen gwaith Charlie ar y byd, a hynny nawr.’ – Miranda Hart

View full details