Skip to product information
1 of 5

Y Gang Merched Waetha Erioed

Y Gang Merched Waetha Erioed

Bex Gunn a Laura Buckinham

SKU:9781805952671

Regular price £9.99
Regular price Sale price £9.99
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.

Content

Am lawer yn rhy hir, mae colli babi wedi bod yn bwnc tabw. Ond mae gennych hawl i alaru. Dydy eich galar chi ddim yn anghymesur â’ch colled.

Gan gyflwynwyr y podlediad arobryn, The Worst Girl Gang Ever, mae hwn yn llawlyfr ymarferol ar gyfer llywio eich ffordd drwy dywyllwch dychrynllyd colli babi.

Trwy dynnu ar brofiad personol a than arweiniad arbenigwyr ym meysydd galar, meddylgarwch, seiciatreg a pherthnasoedd, mae’r gyfrol hon yn cynnig cyfoeth o wybodaeth ac awgrymiadau ymarferol. Ynddi hefyd mae yna straeon a chyngor gonest, ac ysbrydoledig, gan fenywod eraill a chyplau yn ein cymuned.

Yn ddefnyddiol, hanfodol, ac yn llawn cysur syfrdanol, dyma’r canllaw i estyn ato, i’w ddefnyddio yn ôl eich dewis, neu i’w ddarllen o glawr i glawr. Rydyn ni yma ar eich cyfer chi bob cam o’r ffordd.

CROESO I’N GANG.

Product Details

Publication date: 29-Oct-2026

Format: Clawr Meddal

Product size: 198 x 128mm

Pages: 304

Age Range: All Ages

About the Author / Illustrator

Fe wnaeth Bex Gunn a nyrs Laura Buckingham ddechrau’r podlediad The Worst Girl Gang Ever yn 2020 wrth iddynt sylweddoli cyn lleied o gymorth a chydnabyddiaeth oedd ar gael i fenywod sydd yn ffeindio ei hun yn rhan o’r gang merched waetha yma.

Mae’r ddwy ohonynt yn rhannu eu profiadau o golli babi gyda’r nôd o achosi newid ac annog cydnabyddiaeth am y pwnc.

Maen nhw hefyd yn rhedeg cyrsiau ‘Pathway to Recovery’ gyda chwech arbenigwyr sydd yn rhoi cymorth a phwer i fenywod ar ôl iddynt colli babi.

Reviews

‘Mae’n debyg i’r ffrind caredig sy’n dringo i lawr i’r twll gyda chi trwy’r rhannau gwaetha . Meddylgar, defnyddiol, a fymryn yn rhegllyd ... fy math i o lawlyfr!’ Elle Wright, awdur A Bump in the Road

‘Mae Bex a Laura yma i gynnig cymorth i eraill ac i chwalu’r stigma ynghylch colli babi’ OCÊ

View full details