Clawr meddal | Oed 3-5 | 36 tudalen | 250 x 250mm
Cyhoeddwyd Mai 2022 | ISBN 9781802584769
Ci prysur yw Cadi. Mae’n hoffi cael gwaith. Un diwrnod heulog mae’n helpu Mr Siocled i werthu hufen iâ mewn fan fach. Ond yn fuan mae pethau’n mynd o chwith, a rhaid i Cadi feddwl yn chwim er mwyn achub yr Ŵyl Hufen Iâ.
Daw’r awdur Tracey Hammett o Gaerdydd. Un o’i breuddwydion ers bore oes yw cael fan hufen iâ fach! Mae’n awdur nifer o sgriptiau a straeon i blant ar gyfer y teledu ac mae’n rhannu ei hamser rhwng Caerdydd a’r Barri, lle mae’r rhan fwyaf o’i theulu’n byw. Mae’n caru cŵn ac mae’n byw gyda’i merch a Jas, ci potsiwr a ddaeth o Loches Cŵn a Chathod Battersea. Cadi’r Ci yn Cael Gwaith yw ail lyfr Tracey, yn dilyn Dim Bwystfilod!
Darlunydd llyfrau o Gymru yw Angie Stevens. Mae’n byw mewn tŷ bychan yn Abertawe gyda’i theulu prysur a sawl anifail. Mae Angie’n adnabyddus am ei blog Doodlemum, sy’n cynnwys lluniau o’i theulu. Hi yw awdur Doodlemum: A Year of Family Life ac mae wedi creu darluniau ar gyfer y llyfrau stori-a-llun My Mummy Says a My Daddy Says gan Justine Smith.