
Mae Llygoden wedi creu hamoc ac mae Twrch yn barod iawn i ofalu ei fod yn ddiogel i’w ffrind orwedd arno. Ac mae Llygoden yr un mor barod i helpu Twrch i ddod o hyd i’w sbectol goll, ond pa un o’r ddau ffrind sy’n medru gwneud dawns y dail?
Cewch eich swyno gan anturiaethau Llygoden a Twrch yn y straeon annwyl ac ysgafn hyn gan Joyce Dunbar, wedi’u darlunio gan James Mayhew.