Clawr meddal | Oed 3-7 | 36 tudalen | 250 x 250mm
Cyhoeddwyd Mai 2022 | ISBN 9781802580549
Neidia law-ym-mhawen gyda Sgwarnog i gwrdd â’i pherthnasau yng ngwledydd America, Japan, Ewrop a’r Arctig, yn y stori delynegol hon am gynefinoedd ac ysglyfaethwyr ledled y byd.
Click here to view the English edition
Bardd yw Dom Conlon. Wrth siarad ar BBC Radio Lancashire, neu wrth gynnal gweithdai i blant, natur a’r sér sy’n llywio popeth mae’n ei wneud. Dywedodd Nicola Davies fod Astro Poetica yn ‘feddylgar, yn procio’r dychymyg a’r meddwl ac yn hwyl’. Barn Chris Riddell am This Rock That Rock oedd ei fod yn cynnwys ‘geiriau a lluniau oedd yn rhyfeddol ac yn wledd i’r llygad a’r glust’. Mae Dom yn gobeithio medru ysbrydoli pawb i ddarllen a sgwennu barddoniaeth.
Mae Anastasia Izlesou yn ddarlunydd a dylunydd rhyngddisgyblaethol o’r Deyrnas Unedig. Gan ddefnyddio cyfuniad o gyfryngau traddodiadol a digidol, mae’n creu gwaith egn ol sy’n llawn elfennau naturiol, mentrus. Daw ei hysbrydoliaeth o’r gwyddorau naturiol, llenyddiaeth a llên gwerin, a hefyd o eitemau bob-dydd ac eitemau kitsch.