Skip to product information
1 of 4

Clare Foster

Sut i Helpu Rhywun ar ôl Colli Babi

Sut i Helpu Rhywun ar ôl Colli Babi

SKU:9781805950394

Regular price £10.99
Regular price Sale price £10.99
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.

Content

Pan fydd rhywun agos wedi colli babi, cael beichiogrwydd ectopig neu feichiogrwydd molar, mae ein hawydd i helpu yn aml yn cael ei ffrwyno gan  yr ofn o ddweud neu wneud y ‘peth anghywir’.

Bydd y canllaw ystyriol hwn yn eich galluogi i gefnogi menyw a’i phartner drwy’r cyfnod anodd hwn. Mae Clare Foster yn pwyso ar brofiadau byw niferus, yn ogystal ag ymchwil helaeth a chyngor sy’n seiliedig ar dystiolaeth, i roi’r wybodaeth sydd ei hangen ar bartneriaid, teulu a ffrindiau i helpu. Mae’n rhannu straeon am alar, fel y gallwch chi: 

• Ddeall y teimladau a’r ymatebion gwahanol ac amrywiol
sy’n codi yn ystod ac yn dilyn colli beichiogrwydd

• Cynnig lle i siarad, heb boeni am ddweud y ‘peth anghywir’

• Helpu anwylyd i alaru am eu colled

• Cynnig cymorth a chefnogaeth ymarferol yn y ffordd fwyaf priodol

• Cydnabod a chofio’r golled gydag empathi a doethineb

Bydd y llyfr hwn yn eich helpu i uniaethu ag unrhyw un sydd wedi colli babi. 

Product Details

Publication date: Mai 23

Format: Paperback

Product size: 190 x 135

Pages:

Suggested Age Range: All Ages

About the Author / Illustrator

Mae Clare Foster yn awdur arobryn, yn hyfforddwraig ac yn rheolwraig gymunedol. Mae hi’n datblygu cynnwys gwybodaeth ategol ar gyfer ystod eang o elusennau a chwmnïau iechyd, gan gynnwys saith mlynedd gyda’r Miscarriage Association. Mae hi’n frwd ynglŷn â helpu pobl i gael gafael ar y gefnogaeth ymarferol ac emosiynol sydd ei hangen arnyn nhw, beth bynnag fo’u profiad.

View full details