CBT Therapi Ymddygiad Gwybyddol

CBT Therapi Ymddygiad Gwybyddol

Vendor
Elaine Iljon Foreman and Clair Pollard
Regular price
£6.99
Sale price
£6.99
Regular price
Sold out
Unit price
per 

   

Clawr meddal  |  248 tudalen  |  196 x 128mm
Cyhoeddiad Ebrill 2019  |  ISBN 9781913134983

Gallwch oresgyn ofnau, rheoli negyddiaeth a gwella’ch bywyd gyda therapi ymddygiad gwybyddol (CBT).

Yn aml, fe all newid ymddangos yn dasg amhosib, ond bydd y canllaw ymarferol yma’n gymorth i chi ei weld mewn persbectif. Gyda dwy arbenigwraig yn eich arwain, byddwch yn dod i adnabod y meddyliau a’r mathau o ymddygiad sy’n eich dal chi’n ôl, ac yn datblygu sgiliau i feddwl yn fwy cadarnhaol, ymddwyn yn fwy digynnwrf a theimlo’n well amdanoch chi’ch hun.

Gan ddefnyddio’r un dulliau ag ymarferwyr CBT, mae’r llyfr hwn yn llawn gweithgareddau ac arbrofion i archwilio a herio, straeon ac ymarferion i gynnig persbectif i chi, ac mae iddo fframwaith clir i’ch annog a’ch tywys. Bydd agwedd gyfeillgar a chefnogol yr awduron yn eich helpu i reoli’r adegau hynny pan fydd meddyliau ac ymddygiad negyddol yn ailgodi eu pen, ac i ddatblygu strategaethau ymdopi cadarn.

Mae CBT yn ymgorffori’r therapïau a’r ymchwil ddiweddaraf, gan gynnwys ACT ac ymwybyddiaeth ofalgar, ac yn mynd i’r afael yn benodol â thrafferthion fel diffyg cwsg ac iselder.

Mae Elaine Iljon Foreman a Clair Pollard yn Seicolegwyr Clinigol Siartredig sy’n arbenigo mewn therapïau ymddygiad gwybyddol. Mae Elaine yn canolbwyntio ar ymchwil glinigol i orbryder, a Clair yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac elusen The Back-Up Trust.