Pam Mae Dementia yn Gwneud Cyfathrebu’n Anodd
Pam Mae Dementia yn Gwneud Cyfathrebu’n Anodd
Pam Mae Dementia yn Gwneud Cyfathrebu’n Anodd
  • Load image into Gallery viewer, Pam Mae Dementia yn Gwneud Cyfathrebu’n Anodd
  • Load image into Gallery viewer, Pam Mae Dementia yn Gwneud Cyfathrebu’n Anodd
  • Load image into Gallery viewer, Pam Mae Dementia yn Gwneud Cyfathrebu’n Anodd

Pam Mae Dementia yn Gwneud Cyfathrebu’n Anodd

Vendor
ALISON WRAY
Regular price
£9.99
Sale price
£9.99
Regular price
Sold out
Unit price
per 

Tax included.

For UK deliveries shipping is calculated at checkout. For International deliveries check shipping options here. We currently offer international delivery to the following territories: Europe, United States, Canada, Australia and New Zealand.

Clawr meddal  |  208 tudalen  |  229 x 152mm
Cyhoeddiad Chwefror 2025  |  ISBN 9781802587593

Mae gan ddementia ei heriau, yn enwedig o ran sut mae’n amharu ar gyfathrebu effeithiol, gan gael effaith ar bobl sy’n byw gyda dementia ac ar y rhai maen nhw’n ymwneud â nhw.  Mae Alison Wray yn archwilio mecanweithiau sylfaenol cyfathrebu: sut rydyn ni’n ei ddefnyddio i gyflawni ein nodau, beth all fynd o’i le gyda dementia a sut gall ymdrechion i ddatrys problemau fynd o chwith. 

Mae’r penodau yn archwilio adegau lletchwith, ydy hi’n iawn i ni ddweud celwydd, a beth gall pob un ohonom ni ei wneud i wella profiad pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr. Gyda phwyntiau gweithredu ar gyfer gofalwyr, y cyhoedd a phobl sydd wedi cael diagnosis o ddementia, mae’r llyfr hwn yn dangos sut i ymdrin â chyfathrebu er mwyn cael canlyniadau gwell.

Mae Alison Wray yn Athro Ymchwil mewn Iaith a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Caerdydd. Wrth weithio ar ddementia a chyfathrebu ers 2007, mae Alison wedi datblygu ei syniadau mewn cydweithrediad â darparwyr gofal dementia ac mae wedi cyhoeddi’n eang ar y pwnc.

‘Dyma lyfr cyfareddol. Hen dro na fyddai wedi bod ar gael pan oedd fy rhieni yn byw gyda dementia. Mae’n gofyn yr holl gwestiynau roeddwn i’n eu gofyn yn gyson i fi fy hun fel gofalwr, ac mae’n mynd i’r afael â nhw yn ddoeth ac yn ddeallus. Mae’n fwy na gwerslyfr ar glefyd Alzheimer, mae’n llyfr am y cyflwr dynol.’
Syr Tony Robinson, darlledwr, actor ac awdur

‘Yn ei llyfr hwylus a grymusol, mae Dr Wray yn cynnig dirnadaeth obeithiol a strategaethau ymarferol. Mae ei safbwynt yn onest, yn ddynol, ac, yn fwyaf rhyfeddol, yn gynhwysol o’r person sy’n byw gydag anhwylder niwrowybyddol fel aelod o’i gynulleidfa.’
Douglas W. Lane, seicolegydd clinigol, arbenigedd mewn pobl hŷn

‘Adnodd gwych sy’n darparu dirnadaeth o’r hyn sy’n llesteirio cyfathrebu llwyddiannus gyda pherson sy’n byw gyda dementia ac opsiynau pellach ar gyfer sut i ymateb.’
Jackie Poole, Hyrwyddwr Gofal Dementia, Quality Compliance Systems (QCS)