Skip to product information
1 of 6

Malachy Doyle ac Andrew Whitson

Mali a’r Dolffiniaid

Mali a’r Dolffiniaid

SKU:9781802581324

Regular price £7.99
Regular price Sale price £7.99
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.

Content

ysgotwr yw tad Mali, ac mae’n creu cwch bach iddi ac yn ei dysgu sut i’w hwylio. Mewn dim o dro mae Mali a’r cwch allan yn y tonnau, gyda haid o ddolffiniaid yn cadw cwmni iddi.

Mae Mali’n helpu un dolffin bach wrth iddo fynd yn sownd mewn rhwyd. Ond pwy fydd yn helpu Mali pan fydd hi mewn trafferth ar y môr?

Llyfrau yn y gyfres:


English editions:

Product Details

Publication date: Awst 2022

Format: Clawr medda;

Product size: 250 x 250mm

Pages: 36

Suggested Age Range: 5-7

About the Author / Illustrator

Mae dros gant o lyfrau Malachy Doyl wedi cael eu cyhoeddi, o lyfrau bwrdd i’r plant lleiaf i nofelau afaelgar i ddarllenwyr yn eu harddegau. Mae wedi ennill nifer o wobrau pwysig, ac mae ei lyfrau wedi’u cyfieithu i ryw ddeg ar hugain o ieithoedd. Yn ogystal â’r ddwy stori flaenorol yng nghyfres Mali, Mali a’r Môr Stormus, Mali a’r Goleudy a Mali a’r Morfil, rhai o’i deitlau diweddar eraill yw Miracle of Hanukkah, Rama and Sita, Jack and the Jungle a Big Bad Biteasaurus (Bloomsbury), Fug and the Thumps (Firefly), Cinderfella (Walker Books) a Ootch Cootch (Graffeg), wedi’i ddarlunio gan ei ferch, Hannah Doyle.

Daw Andrew Whitson o Belfast ac mae’n artist arobryn sy’n hoffi cael ei alw’n Mr Ando! Mae Mr Ando wedi darlunio dros ugain o lyfrau o dan ei enw ei hun. Y diweddaraf o’r rhain yw llyfrau cyfres Mali gyda Malachy Doyle, a chyfres arobryn Rita, sef llyfrau stori-a-llun, gyda Myra Zepf.

View full details