Clawr meddal | Oed 5-7 | 36 tudalen | 250 x 250mm
Cyhoeddwyd Awst 2022 | ISBN 9781802581324
Pysgotwr yw tad Mali, ac mae’n creu cwch bach iddi ac yn ei dysgu sut i’w hwylio. Mewn dim o dro mae Mali a’r cwch allan yn y tonnau, gyda haid o ddolffiniaid yn cadw cwmni iddi.
Mae Mali’n helpu un dolffin bach wrth iddo fynd yn sownd mewn rhwyd. Ond pwy fydd yn helpu Mali pan fydd hi mewn trafferth ar y môr?
Llyfrau yn y gyfres:
English editions:
- Molly and the Stormy Sea
- Molly and the Whale
- Molly and the Lockdown
- Molly and the Lighthouse
- Molly and the Shipwreck
Mae Malachy Doyle wedi cyhoeddi dros gant o lyfrau, o lyfrau sbonc i blant ifanc i nofelau grymus i’r arddegau. Dros y blynyddoedd mae wedi ennill nifer o wobrau llyfrau pwysig, ac mae ei waith ar gael mewn tua deg ar hugain o ieithoedd.
Mae Andrew Whitson yn arlunydd arobryn ac yn frodor o Belffast sy’n hoffi cael ei alw’n Mr Ando! Mae’n byw mewn hen dŵ sy’n swatio’n gynnil ar ochr bryn niwlog; ar ymyl coedwig hud, islaw castell swynedig yng nghysgod trwyn cawr.