Clawr llipa | 96 tudalen | 179 x 125mm
Cyhoeddiad Ebrill 2019 | ISBN 9781912654697
Beth yw dementia? A yw’r cyflwr yr un fath â chlefyd Alzheimer? Pa symptomau y dylech chi chwilio amdanyn nhw? Pa driniaethau sydd ar gael? Yn y cyflwyniad byr ond llawn yma, mae Dr Simon Atkins yn chwalu’r chwedlau ac yn rhoi’r ffeithiau ynglŷn â’r cyflwr hwn sy’n dod yn fwy a mwy cyffredin. Os ydych chi’n poeni amdanoch chi’ch hunan neu am rywun arall, bydd Camau Cyntaf byw gyda Dementia yn rhoi cyngor i chi ar sut mae cael diagnosis, triniaethau meddygol confensiynol a meddyginiaethau amgen, y gefnogaeth gymdeithasol ac ariannol sydd ar gael a’r newidiadau mewn ffordd o fyw a allai helpu i’w rwystro.
“Mae hwn yn ganllaw gwych, cynhwysfawr, diffwdan i gyflwr sy’n effeithio ar un oedolyn mewn tri dros 65 oed.”
Alice Roberts, cyflwynydd teledu ac Athro Ymgysylltiad y Cyhoedd â Gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Birmingham.
Mae Dr Simon Atkins yn feddyg teulu prysur gyda diddordeb arbennig mewn cyflyrau iechyd meddwl. Mae Dr Atkins hefyd yn arbenigo mewn trafod problemau iechyd ar y teledu ac ar y radio, ac mewn llyfrau, papurau newydd a chylchgronau.