Skip to product information
1 of 6

Susan Elliot-Wright

Pan fo rhywun annwyl â Dementia

Pan fo rhywun annwyl â Dementia

SKU:9781912654888

Regular price £8.99
Regular price Sale price £8.99
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.

Content

Mae dementia’n effeithio ar 850,000 a rhagor o bobl yn y Deyrnas Unedig, gyda gofalwyr di-dâl yn gofalu am y rhan fwyaf ohonyn nhw. Mae’r argraffiad newydd yma o Pan fo rhywun annwyl â dementia yn trafod materion ymarferol ac emosiynol i’w hystyried os ydych chi’n amau bod clefyd Alzheimer neu ffurf arall ar ddementia ar rywun yr ydych chi’n ei garu, neu’n gwybod hynny. Mae’n egluro’r effaith bosibl ar eich perthynas ac arnoch chi a’r teulu, a sut i gael yr help a’r gefnogaeth
angenrheidiol. Dyma’r pynciau dan sylw:

  • sut i gael help meddygol, hyd yn oed os yw’ch perthynas yn gwadu bod unrhyw beth o’i le
  • mathau o ddementia, yn cynnwys clefyd Alzheimer, dementia cyrff Lewy a dementia fasgwlar
  • dementia ar eich cymar
  • sut mae meddyginiaeth yn gallu helpu a’r wybodaeth ddiweddaraf am ba gyffuriau sydd ar gael
  • therapi a thriniaethau heb gyffuriau, yn cynnwys aromatherapi
  • sut i gynnal sgiliau a galluoedd
  • delio â materion ymarferol – cof ac ymddygiad
  • cymorth allanol, budd-daliadau a gwasanaethau
  • gofal preswyl
  • ymdopi â bod yn ofalwr

Product Details

Publication date: Ebrill 2019

Format: Clawr meddal

Product size: 216 x 128mm

Pages: 128

Suggested Age Range:

About the Author / Illustrator

Yn y llawlyfr cynhwysfawr hwn, mae Susan Elliot-Wright yn dweud y bydd deall yr afuechyd hynod gyffredin hwn yn gallu codi ymwybyddiaeth ohono ac yn gwella ansawdd bywyd pawb sy’n byw dan ei gysgod.

View full details