Clawr meddal|32 tudalen|200x250mm
Medi 2021|ISBN 9781802580143
Wrth i dymor yr hydref gychwyn, mae Cynan yn poeni’n fawr - mae ei goeden hardd wedi dechrau gollwng ei dail i gyd. Beth bynnag mae Cynan yn ceisio ei wneud i’w hachub, does dim byd yn tycio. Pan mae’r ddeilen olaf yn cwympo, mae Cynan yn teimlo’n ddigalon iawn…nes iddo ddychwelyd drannoeth i olygfa ogoneddus. Stori dyner, gadarnhaol am dderbyniad a gobaith ar gyfer y dyfodol.
Click here to view the English edition
Llyfrau Cynan:
- Cynan a'r Petalau
- Cynan a'r Lindysyn
- Cynan a'r Sioe Haf
- Cynan a'r Bluen Eira
- Cynan a'r Ddeilen Fach
- Cynan a'r Enfys
- Cynan a'r Pwll Bach
Mae Julia Rawlinson yn awdur barddoniaeth a llyfrau lluniau plant sydd wedi cael ei chydnabod a’i gwerthu yn rhyngwladol. Mae ei gweithiau diweddar eraill yn cynnwys Sweet Dreaming, Dragon’s Lost Roar a Mule School.
Mynychodd Tiphanie Beeke y Coleg Celf Frenhinol lle enillodd radd Meistr mewn Darlunio ac ers hynny mae wedi arbenigo mewn llyfrau plant. Mae ei gwaith diweddar yn cynnwys darluniau ar gyfer Fast Asleep in a Little Village in Israel a Changes: A Child’s First Poetry Collection.