Oedran 3-5 | Tudalen 36 | 230 x 230mm
Cyhoeddiad Hydref 2024 | ISBN 9781802586480
Cynnwys:
Pan mae Ana yn gadael ei theulu a’i chartref er mwyn dianc rhag hunllefau rhyfel, dyw setlo yn ei chartref newydd gydag Olwen a’i theulu ddim yn hawdd. Rhaid i Olwen ddysgu arfer â chwmni Ana, ond wrth i’r merched dynnu lluniau gyda’i gilydd, daw Olwen i sylweddoli beth mae Ana wedi’i adael ar ôl. Mae wedi gorfod aberthu popeth er mwyn bod yn ddiogel, ac mae Olwen am ei helpu. Bob yn dipyn, mae caredigrwydd a chariad Olwen yn dod â lliw yn ôl i fyd Ana.
Am Miriam Latimer:
Astudiodd Miriam Latimer ddarlunio ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr. Mae hi bellach yn ddarlunydd llawn amser, ac yn cyfuno’r gwaith hwn â chynnal gweithdai mewn ysgolion cynradd. Mae’n byw gyda’i gŵr a’u dau fab yn Nyfnaint, Lloegr.