Clawr meddal | Oed 3-5 | 36 tudalen | 250 x 250mm
Cyhoeddwyd Mawrth 2023 | ISBN 9781802583816
Ym mynyddoedd yr Himalaya mae Cawr, yr yeti anniben, a Pitw, y chwannen sy’n casau’r oerfel, yn byw’n gytûn nes iddyn nhw ddod ar draws crib sy’n rhoi straen ar eu cyfeillgarwch. A fydd cynnen gyda lle wpartiaid haerllug a bygythiad i’w cartref yn helpu Cawr a Pitw i feddwl yn iawn?
Pitw a Cawr:
Cyn-newyddiadurwr sydd hefyd wedi troi ei law at gyfarwyddo a sgwennu ar gyfer y teledu yw Ian Brown. Mae Ian wedi sgwennu neu gyfarwyddo ar gyfer nifer o enwau cyfarwydd, gan ennill sawl gwobr am ei waith. Bu sgwennu ar gyfer plant yn freuddwyd ganddo ers tro. Mae’n rhannu ei gartref â’i wraig Millie, dwy gath, ambell greadur arall – a chrwban o’r enw Albert.
Graddiodd Eoin Clarke mewn dylunio graffeg o Brifysgol Middlesex, ac enillodd MA mewn animeiddio o’r Coleg Celf Brenhinol. Mae wedi gweithio yn y diwydiant animeiddio am ddeg mlynedd ar hugain fel cyfarwyddwr, animeiddiwr, dylunydd ac artist bwrdd stori. Mae dod ag Albert yn fyw wedi bod yn bleser.