Colli Clive i Ddementia Cynnar

Colli Clive i Ddementia Cynnar

Vendor
Helen Beaumont
Regular price
£13.99
Sale price
£13.99
Regular price
Sold out
Unit price
per 

Tax included.

For UK deliveries shipping is calculated at checkout. For International deliveries check shipping options here. We currently offer international delivery to the following territories: Europe, United States, Canada, Australia and New Zealand.


Clawr meddal  |  144 tudalen  |  234 x 156mm
Cyhoeddiad Ebrill 2019  |  ISBN 9781912654895

Cafodd Clive Beaumont ddiagnosis o ddementia cynnar pan oedd yn 45 oed, a’i blant ddim ond yn dair ac yn bedair oed. Roedd Clive yn cael mwy a mwy o drafferth i wneud ei waith yn iawn ac roedd wedi colli’i swydd yn y Fyddin y flwyddyn gynt. Mae ei wraig, Helen, yn sôn am sut y llwyddodd hi a gweddill y teulu i fynd drwy’r chwe blynedd nesaf, nes i Clive farw: yr her o addasu wrth i’w gyflwr waethygu; gorfod delio â goblygiadau cyfreithiol y salwch; gwneud cais am fudd-daliadau; chwilio am gartrefi nyrsio; a delio â’i chyfrifoldebau fel gwraig, mam a gweithiwr. Mae hi hefyd yn disgrifio’i thristwch a’i hofn wrth i’w gŵr, a oedd yn un mor addfwyn, ddod yn fwy a mwy anwadal a threisgar wrth i’w iechyd ddirywio. Mae’r stori hon yn helpu pobl iau â dementia, eu ffrindiau, eu teuluoedd a’u gofalwyr, ac yn eu hannog.

Mae Helen Beaumont yn un o aelodau gwreiddiol The Clive Project, elusen gofrestredig yn Swydd Rydychen, sydd bellach yn dwyn yr enw YoungDementia UK ers 2010. Cafodd ei sefydlu gan Helen ac eraill i ddarparu gwasanaethau cymorth i bobl â dementia cynnar. Mae hi’n ymchwilio i ddementia ym Mhrifysgol Manceinion.

'Mae gwraig Clive, Helen, yn tynnu sylw at bob agwedd ar gyflwr ei gwr a'i driniaeth: yr oedi hir cyn cael diagnosis iawn, sut roedd Clive yn colli ei sgiliau bywyd wrth i'w blant feithrin eu rhai nhw, rhagfarnau dryslyd y system fudd-daliadau, a'r gofid o orfod cael hyd i ofal tymor hir iddo y tu allan i'w gartref.

Yn ddiffuant, ond heb fod yn sentimental, dyma hanes prin a dadlennol rhai sy'n ceisio byw ac ymdopi â'r cyflwr enbyd hwn.

Dylai'r llyfr adderchog hwn fod ar frig rhestr ddarllen unrhyw un sy'n ceisio deall problemau dementia mewn pobl iau.' Nursing Standard