Glaw Siocled

Glaw Siocled

Vendor
Sarah Zoutewelle-Morris
Regular price
£14.99
Sale price
£14.99
Regular price
Sold out
Unit price
per 

Clawr meddal  |  188 tudalen  |  230 x 190mm
Cyhoeddiad Gorffennaf 2019  |  ISBN 9781912654901

Mae Glaw Siocled ar gyfer y rheini sy’n gweithio mewn gofal preswyl, mewn gofal dydd ac yn y cartref. O’r diwedd, llyfr i’r rheini sydd ag awch am weithgareddau creadigol i bobl sy’n byw â dementia, ac yn enwedig y rheini â dementia datblygedig.

Mae Glaw Siocled ar gyfer y rheini sy’n gweithio

  • mewn gofal preswyl
  • mewn gofal dydd, ac
  • yn y cartref

sy’n chwilio am ffyrdd creadigol i wella lles pobl sy’n byw â dementia. Mae’n addas i’r rheini sydd heb lawer o brofiad, yn cynnwys aelodau’r teulu, gan fod yr awgrymiadau’n ymarferol ac yn canolbwyntio ar yr hyn y mae’n bosibl ei gyflawni; ac i  ymarferwyr drwy gynnig cyfleoedd i gyfathrebu mewn modd mwy dychmygus ac effeithiol. Mae pob syniad wedi’i ddefnyddio’n llwyddiannus mewn amrywiaeth lawn o sefyllfaoedd gofal dementia.



Artist o America yw Sarah Zoutewelle-Morris, sy’n byw yn Holland gyda’i gwr, sy’n saer coed, a’u ci, Lucie.

Mae hi’n defnyddio ei chreadigrwydd ar draws amrywiaeth eang o  ddisgyblaethau, yn cynnwys dylunio graffeg, dylunio a darlunio llyfrau, caligraffeg, celfyddyd gain, addurno offerynnau cerdd hynafol, a gweithio fel artist mewn gofal iechyd.

Yn ei sesiynau hyfforddi a’i gweithdai creadigrwydd, mae hi’n annog pobl sydd ag ychydig o brofiad mewn celf, neu ddim o gwbl, i feddwl yn fwy creadigol a’u mynegi eu hunan mewn cyfryngau amrywiol.

Mae hi wedi ysgrifennu erthyglau ar y broses greadigol ar gyfer y Journal of Dementia Care a chyhoeddiadau eraill.

Glaw Siocled yw ei llyfr cyntaf hi. Ei gwefan yw: www.artcalling.worldpress.com