Llawlyfr ar Gyfer Dolur Calon

Llawlyfr ar Gyfer Dolur Calon

Vendor
Cathy Rentzenbrink
Regular price
£7.99
Sale price
£7.99
Regular price
Sold out
Unit price
per 

Clawr meddal  |  160 tudalen  |  197 x 130mm
Cyhoeddiad Mawrth 2020  |  ISBN 9781913134976

Mae dolur calon yn rhan o’r cyflwr dynol – yn ystod ein bywydau, mae pawb ohonom yn dod ar draws tristwch a cholled. Ond beth rydyn ni’n ei ddweud wrth rywun pan fydd y gwaethaf wedi digwydd a sut ydyn ni’n ymdopi pan mae’n digwydd i ni?

Canllaw ar gyfer goroesi adegau anodd yw’r llyfr hwn. Bydd yn taflu mymryn o oleuni ar y diwrnod tywyllaf ac yn eich atgoffa nad ydych chi ar eich pen eich hun.

Magwyd Cathy Rentzenbrink yn Swydd Efrog a bu’n byw am flynyddoedd lawer yn Llundain cyn dychwelyd i Gernyw, lle cafodd ei geni. Mae’n awdur ac yn newyddiadurwraig. Hi yw awdur The Last Act of Love, un o gofiannau mwyaf poblogaidd The Sunday Times, a gyrhaeddodd restr fer Gwobr Llyfrau Wellcome.


‘Llyfr twymgalon, llawn ing, cydymdeimlad a gonestrwydd, sy’n cynnig cyfoeth o ddoethineb a dealltwriaeth’ Daily Express

‘Llyfr hyfryd, syml sy’n dangos sut i ymdopi â siomedigaethau ac ergydion a thristwch bywyd... cwbl ddynol’ Matt Haig, Observer

‘Pan drodd fy mywyd wyneb i waered, dyma’r llyfr yr hoffwn fod wedi ei ddarllen’ Decca Aitkenhead