Clawr meddal | Oed 12+ | 32 tudalen | 230 x 170mm
Cyhoeddwyd Hydref 2022 | ISBN 9781802583304
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng ofn a chyffro? Sut mae’r meddwl a’r corff yn creu emosiynau? Pryd gall gorbryder fod yn dda?
Mae’r canllaw graffeg hwn sy’n seiliedig ar wyddoniaeth yn mynd i’r afael â’r cwestiynau hyn a materion eraill er mwyn dangos pa mor rhyfedd yw gorbryder. Trwy wybod bod gorbryder yn deimlad amddiffynnol sy’n cael ei greu yn y system nerfol, a thrwy ddeall ein greddfau ymladd neu ffoi, gallwn leihau’r ofn a deimlwn yn ystod pyliau o orbryder. Mae gorbryder yn cael ei esbonio mewn fformat graffeg difyr a hawdd ei ddeall sy’n cynnwys cyngor a strategaethau i leddfu ei symptomau. Dysga sut i deimlo er mwyn i ti allu edrych ar fywyd yn fwy cadarnhaol.
Mae Steve Haines yn weithiwr ar y corff ers dros 20 mlynedd. Mae deall gwyddoniaeth trawma a phoen wedi trawsnewid ei agweddau at wella. Mae’n byw ac yn gweithio rhwng Llundain a Genefa.
Mae Sophie Standing yn gweithio fel darlunydd a dylunydd yn Llundain, ac mae’n arbenigo yn y gwyddorau dynol. Mae ei harddull yn cyfuno gwaith digidol a gwaith â llaw, gyda phwyslais ar liwiau cyfoethog, gweadau a chysyniadau trosiadol.