Oed 9-12 | Clawr caled | 128 tudalen | 368 x 270mm
Cyhoeddwyd Hydref 2019 | ISBN 9781913134617
Gan Robert Macfarlane, Jackie Morris a Mererid Hopwood.
Mesen, Miaren, Dant y Llew, Dyfrgi – yn y blynyddoedd diwethaf mae’r geiriau natur hyn wedi bod yn diflannu o fywydau plant.
Mae’r llyfr hanfodol hwn yn dathlu iaith dan fygythiad a’r byd naturiol y mae’n ei ddisgrifio drwy ‘swynganeuon’ acrostig Robert Macfarlane, pob un yn dal hud a lledrith cynhenid eu pwnc ac yn annog ymgysylltiad adfywied gyda’r byd o’n cwmpas.
Mae lluniau Jackie Morris wedi’u peintio â llaw yn adlewyrchu pob cerdd, gan greu trysor gweledol a fydd i’w fwynhau am genedlaethau i ddod.
The Lost Words Welsh language edition, by Robert Macfarlane, Jackie Morris and Mererid Hopwood.
Acorn, Bramble, Dandelion, Otter – in recent years these nature words have been disappearing from the lives of children.
This vital book celebrates a threatened language and the natural world it describes through Robert Macfarlane’s acrostic spell-poems, each capturing the inherent awe and magic of their subject and encouraging revitalised engagement with the world around us.
Jackie Morris’s hand-painted illustrations accompany each poem, creating a visual treasure to be enjoyed for generations to come.
'The most beautiful and thought-provoking book I’ve read this year’ Frank Cottrell-Boyce, Observer
‘Gorgeous to look at and to read. Give it to a child to bring back the magic of language – and its scope’ Jeanette Winterson, Guardian
‘Robert Macfarlane and Jackie Morris have made a thing of astonishing beauty’ Alex Preston, Observer
GWERTHWR GORAU SUNDAY TIMES
ENILLYDD THE BEAUTIFUL BOOK AWARD 2017
AR RESTR FER THE WAINWRIGHT PRIZE FOR NATURE WRITING 2018
Mae llyfrau gwerthwyr gorau Robert Macfarlane ar dirwedd, natur, pobl a lle yn cynnwys Mountains of the Mind: A History of a Fascination (2003), The Wild Places (2007), The Old Ways (2012), Holloway (2013, gyda Stanley Donwood a Dan Richards), Landmarks (2015), ac Underland: A Deep Time Journey (2019).
Yn 2017 derbyniodd Wobr EM Forster am Lenyddiaeth gan Academi Celf a Llythyrau America.
Mae Jackie Morris yn awdur/darlunydd o nifer o weithiau gwerthwyr gorau i blant, gan gynnwys The Ice Bear, The Snow Leopard a Tell Me a Dragon, i gyd wedi eu hatgynhyrchu gan Graffeg. Derbyniodd Medal Darlunio Gŵyl y Gelli 2018.
Enillodd Mererid Hopwood Gadair, Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol. Derbyniodd hefyd wobr Llyfr Y Flwyddyn am Farddoniaeth Gymraeg a Gwobr Tir na n-Og am nofel i blant.