Darlun: Jackie Morris, Cerdd: Mererid Hopwood
Fformat: Poster, 700 x 500mm, ISBN: 9781802587807
Poster newydd yn cynnwys cerdd gan Mererid Hopwood a darlun gan yr artist ac awdur o fri, Jackie Morris. Gyda 50% o freindaliadau yn mynd at waith MSF, mae’r poster hwn ar unwaith yn alwad am heddwch ac yn gydnabyddiaeth o’r rhai sy’n gweithio yn ddiflino i gefnogi pobl yr effeithir arnynt gan wrthdaro ledled y byd.
Am Jackie Morris:
Mae Jackie Morris yn arlunydd, yn awdur ac yn beintiwr. Mae’n byw ac yn gweithio yng Nghymru ac mae ei gwaith yn cael ei lywio a’i ysbrydoli gan leoedd a chreaduriaid gwyllt. Mae ei llyfrau yn cynnwys The Lost Words, a grëwyd ar y cyd â Robert Macfarlane ac a dderbyniodd gwobr The Greenaway Award am ddarlunio, a’i haddaswyd i’r Gymraeg gan Mererid Hopwood, Geiriau Diflanedig, The Lost Spells, hefyd gyda Macfarlane a How The Whale Became wedi’i ysgrifennu gan Ted Hughes.