Clawr caled | 192 tudalen | 250 x 250mm
Cyhoeddwyd Ionawr 2011 | ISBN 9781905582464
Dyma hanes o drawsnewid rhyfeddol wrth i Gymru gamu i’r unfed ganrif ar hugain gan goleddu cyfeiriad democrataidd newydd. Cododd Y Senedd, a ddyluniwyd gan y pensaer Richard Rogers, yn fforwm nodedig a hynod fodern i’r wlad, yn fynegiant o leisiau ac amrywiaeth y bobl.
Mae’r llyfr ar gael mewn clawr meddal Saesneg, clawr meddal Gymraeg a rhifynnau cyfyngedig Saesneg. Nid oes modd prynu fersiwn Gymraeg clawr papur Y Senedd ar wefan Graffeg erbyn hyn. Gellir ei phrynu o’r siop yn adeilad y Senedd, Bae Caerdydd.
Mae’r cromlinau cedrwydd beiddgar ar ffurf tonnau’r môr yn awgrymu hyder. Mae’r waliau crisial yn cadarnhau tryloywder wrth lywodraethu. O’r llwyfan hon ar y penrhyn hwn, mae Cymru’n edrych i fyw llygad y byd. O ystyried ei bod yn ymgorffori dau gysyniad gwahanol – gweledigaeth bensaernïol ddyrchafol ac arena lywodraethu i ddyn a’i ffaeleddau – mae’n anochel mai mewn awyrgylch o angerdd ac o ddadlau ffyrnig y cafodd y Senedd ei chreu. Ni honnodd neb mai tasg hawdd fyddai hyn. Yn gynulliad a chroesffordd i Gymru gyfan, dyma ddemocratiaeth newydd ar waith. Ac mae’r gwaith yn galed. Mae’n amlwg mai ystyr y Senedd yw lle sy’n eiddo i ni, ac mai ni piau’r dasg o lunio’r dyfodol.
Ddeuddeng mlynedd yn ôl, dim ond breuddwyd oedd yr olygfa fodern ar lannau Caerdydd. Gyda ffotograffau newydd trawiadol gan Andrew Molyneux o adeilad y Senedd a lluniau o’r archif, mae’r llyfr hwn yn dangos sut y daeth y Senedd sy’n ganolbwynt i’r olygfa honno yn wirionedd heriol sy’n destun ysbrydoliaeth.