Fyny Fry

Fyny Fry

Vendor
Nicola Davies a Cathy Fisher
Regular price
£6.99
Sale price
£6.99
Regular price
Sold out
Unit price
per 

Tax included.

For UK deliveries shipping is calculated at checkout. For International deliveries check shipping options here. We currently offer international delivery to the following territories: Europe, United States, Canada, Australia and New Zealand.

Oed 7-9 | Clawr Meddal | 36 tudalen | 200 x 150mm
Cyhoeddwyd Mehefin 2023 | ISBN 9781802583649

Mae Colin yn byw gyda'i fam a'i frawd hyn ac mae'n ysu am gael tyfu i fyny. Ond pan mae'n cael reiffl aer gan ei frawd yn anrheg pen-blwydd, mae pethau'n mynd o chwith ac mae'n dod i sylweddoli bod saethu creaduriaid byw yn wahanol i saethu caniau gwag oddi ar wal yr ardd. Dyma stori bwerus am dyfu i fyny a derbyn cyfrifoldeb.

Gwelwch y gyfres Saesneg:

Mae’r awdur Nicola Davies wedi ennill nifer o wobrau, ac ymhlith ei llyfrau i blant mae The Promise (Gwobr Llyfrau Green Earth 2015, Rhestr Fer Greenaway 2015), Tiny (Gwobr AAAS Subaru 2015), A First Book of Nature, a Whale Boy (Rhestr Fer Gwobr Blue Peter 2014). Ymhlith ei llyfrau ar gyfer Graffeg mae Perfect (Rhestr Hir Greenaway 2017), The Pond, Animal Surprises (Rhestr Hir Klaus Flugge 2017), a chyfresi Shadows & Light a Country Tales. 

Roedd gan Cathy Fisher wyth o frodyr a chwiorydd, a byddai’r plant i gyd yn chwarae yn y caeau’n edrych allan dros ddinas Caerfaddon. Mae wedi bod yn athrawes ac arlunydd drwy ei hoes, yn byw ac yn gweithio ar Ynysoedd y Seychelle ac Awstralia am flynyddoedd maith. Celf yw iaith frodorol Cathy. Pan oedd yn blentyn byddai’n tynnu lluniau ar waliau ei stafell wely, a byth ers hynny mae wedi teimlo bod rhaid iddi beintio a thynnu lluniau o storïau a theimladau am ei bod yn credu bod angen iddynt gael eu clywed. Perfect (Rhestr Hir CILIP Kate Greenaway 2017) oedd llyfr cyntaf Cathy i gael ei gyhoeddi, wedi ei ddilyn gan The Pond a chyfres Country Tales.