
Clawr meddal | Oed 3-7 | 36 tudalen | 250 x 250mm
Cyhoeddwyd Ionawr 2023 | ISBN 9781802582079
Dewch i fwynhau byd natur yng nghwmni Nicola Davies, swolegydd, bardd ac awdur llyfrau plant penigamp. Dilynwch ei hanturiwr ifanc wrth iddi fentro drwy’r jwngl, plymio i’r môr a dringo i ben y coed uchaf . Mae’r gyfres hon yn cynnwys anifeiliaid bach, mawr , llydan a thal. Mae’n cynnwys lluniau llawn lliw gan yr arlunydd Abbie Cameron.
Llyfrau yn y gyfres:
Click here to view the English edition
Mae’r awdur Nicola Davies wedi ennill nifer o wobrau, ac ymhlith ei llyfrau i blant mae The Promise (Gwobr Llyfrau Green Earth 2015, Rhestr Fer Greenaway 2015), Tiny (Gwobr AAAS Subaru 2015), A First Book of Nature, a Whale Boy (Rhestr Fer Gwobr Blue Peter 2014). Ymhlith ei llyfrau ar gyfer Graffeg mae Perfect (Rhestr Hir Greenaway 2017), The Pond, Animal Surprises (Rhestr Hir Klaus Flugge 2017), a chyfresi Shadows & Light a Country Tales.
Astudiodd Abbie Cameron darlunio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Llyfrau cyntaf Abbie i’w cyhoeddi oedd cyfres Animal Surprises, a aeth ymlaen i ysbrydoli cyfres How To Draw.