Albert a'r Gwynt
Albert a'r Gwynt
Albert a'r Gwynt
Albert a'r Gwynt
Albert a'r Gwynt
  • Load image into Gallery viewer, Albert a'r Gwynt
  • Load image into Gallery viewer, Albert a'r Gwynt
  • Load image into Gallery viewer, Albert a'r Gwynt
  • Load image into Gallery viewer, Albert a'r Gwynt
  • Load image into Gallery viewer, Albert a'r Gwynt

Albert a'r Gwynt

Vendor
Ian Brown and Eoin Clarke
Regular price
£7.99
Sale price
£7.99
Regular price
Sold out
Unit price
per 

Tax included.

For UK deliveries shipping is calculated at checkout. For International deliveries check shipping options here. We currently offer international delivery to the following territories: Europe, United States, Canada, Australia and New Zealand.

Clawr meddal | Oed 3-5 | 36 tudalen | 250 x 250mm
Cyhoeddwyd Mehefin 2022 | ISBN 9781802580112

Dyw Albert y crwban ddim yn cael diwrnod rhy dda. Mae’n cael ei ddeffro gan y gwynt yn y coed, ac yna, wrth iddo fynd am gegaid o’i fwyd, mae’r gwynt yn ei gipio oddi wrtho. A all y creaduriaid eraill yn yr ardd helpu Albert i ddod o hyd i’w fwyd? A fydd Albert yn medru diolch iddyn nhw? Trwy gyfrwng lluniau doniol ac annwyl daw’r stori hon â’i neges oesol yn fyw, gan ddangos pwysigrwydd helpu eraill a bod yn ddiolchgar. Ar ddiwedd y stori ceir ffeithiau di-ri a difyr am yr Albert go iawn –
deinosor bach a llysieuwr o fri – ac ysbrydoliaeth y stori hyfryd hon.

Click here to view the English edition

Llyfr Albert:

Ysgrifennydd, chynhyrchydd a chyn-newyddiadurwr o Lundain ydy Ian Brown. Mae ei waith yn cynnwys The South Bank Show, This Is Your Life, Top Gear, rhaglenni dogfen ac adloniant. Ysgrifennodd a chynhyrchodd ar gyfer enwogion fel Pierce Brosnan, Harrison Ford, Simon Cowell, George Lucas, Liam Neeson, Martin Scorsese, Jamie Oliver, a Homer Simpson ymhlith niferoedd eraill. Cyfres Albert yw ei lyfrau plant cyntaf.

Mae Eoin Clarke wedi gweithio am dros 30 mlynedd o fewn y diwydiant animeiddio fel animeiddiwr a chyfarwyddwr - mae ei waith yn y byd ffilm, rhaglenni dogfen, a hysbysebion wedi'u clodi gyda dros drideg o ddyfarniad. Mae ei gleientiaid yn cynnwys y BBC, Channel 4, BFI, a Ray Harryhausen, fel artist byrddai stori, yn ogystal ag animeiddio ar gyfer rhaglenni poblogaidd gydag Harry Hill a Mortimer & Whitehouse: Gone Fishing. Cyfres Albert yw ei lyfrau darluniadol cyntaf.

Adolygiadau:

'Mae Albert wedi ein syfrdanu unwaith eto! Dwi'n falch mae nid fi yn unig sydd yn cael problemau hefo'r gwynt!' - Clive Mantle, Game of Thrones, Casualty, Vicar of Dibley, Robin of Sherwood, awdur llyfrau Freddie Malone. 

'Hyfryd.' - It's All About Stories

'Mae'r stori doniol yma yn gorffen gyda chwip bydd gwrandwyr ifanc ac oedolion yn eu mwynhau.' - Jill Bennett, Red Reading Hub

'Albert ydy'r seren mewn stori doniol hefo diweddglo ffrwydrol.' - Andrea Reece, LoveReading4Kids