Clawr meddal|Oed 3-5 |32 tudalen|250x200mm
Hydref 2022|ISBN 9781802583137
Wrth i Cynan edrych ar awyr y nos, mae’r sêr yn diflannu fesul un – ac mae ei ffrind newydd, y mochyn daear, yn ofn tywyllwch! Mae gan Cynan gynllun er mwyn achub y sêr, ond sylweddola’r ddau wrth rasio drwy’r goedwig rynllyd, nad yw’n hawdd cyrraedd y sêr ... a bod help i’w gael o’r llefydd mwyaf annisgwyl.
Ymuna â Cynan a’i ffrindiau yn y stori hyfryd, serog hon wrth iddyn nhw ddysgu am y byd o’u cwmpas, ac am bwysigrwydd cyfeillgarwch.
Llyfrau Cynan:
- Cynan a'r Petalau
- Cynan a'r Lindysyn
- Cynan a'r Sioe Haf
- Cynan a'r Bluen Eira
- Cynan a'r Ddeilen Fach
- Cynan a'r Enfys
- Cynan a'r Pwll Bach
Mae Julia Rawlinson yn awdur barddoniaeth a llyfrau lluniau plant sydd wedi cael ei chydnabod a’i gwerthu yn rhyngwladol. Mae ei gweithiau diweddar eraill yn cynnwys Sweet Dreaming, Dragon’s Lost Roar a Mule School.
Mynychodd Tiphanie Beeke y Coleg Celf Frenhinol lle enillodd radd Meistr mewn Darlunio ac ers hynny mae wedi arbenigo mewn llyfrau plant. Mae ei gwaith diweddar yn cynnwys darluniau ar gyfer Fast Asleep in a Little Village in Israel a Changes: A Child’s First Poetry Collection.