Clawr meddal | Oed 8-11 | 198x129mm
Cyhoeddwyd Chwefror 2025| ISBN 9781802587135
Cynnwys:
Mae chwaer hŷn Yusuf yn priodi. Mae o’n edrych ymlaen at y bwyd bendigedig, at gael hwyl gyda’i gefndryd a’i gyfnitherod, ac at yr holl anrhegion ... Ond dydy o DDIM yn barod i gamu i sodlau’i chwaer a throi’n gyfrifol.
Dim ond un dewis sydd ganddo: achosi helbul a difetha’r briodas. Byddwch chi’n chwerthin dros y lle wrth ddarllen llyfr cyntaf y gyfres ddoniol, fy hanesion hurt a hynod!
Awdur:
Wedi’i geni ym Mangladesh, ei magu yn Newcastle ac yn byw ar gyrion Manceinion ar hyn o bryd, mae Burhana Islam yn storïwr sy’n angerddol am archwilio themâu treftadaeth, perthyn, hunaniaeth a ffydd yn ei gwaith.
Astudiodd Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Newcastle cyn penderfynu dod yn athrawes ysgol uwchradd, gan rannu ei chariad at straeon gyda chenhedlaeth newydd o feddyliau chwilfrydig, ifanc. Mayhem Mission yw ei llyfr ffuglen plant cyntaf, ac hi hefyd yw awdur Amazing Muslims Who Changed the World (Puffin, 2020).