Clawr meddal | Oed 12+ | 198x129mm
Cyhoeddwyd Chwefror 2025| ISBN 9781802587142
Cynnwys:
Pymtheg oed ydi Josie a Tasha ond cymdogion ydyn nhw, nid ffrindiau. Pan fydd eu teuluoedd yn cefnu arnyn nhw, maen nhw’n dod yn gwmni i’w gilydd yn eu brwydr i oroesi.
Mae mam Josie yn ‘achub y blaned’ drwy gasglu’r rhan fwyaf ohoni, ond dydi’i thŷ bellach ddim yn ddiogel i’w merch ei hun. Mae gan Tasha yr holl ddillad a’r holl bethau y byddai ar unrhyw ferch eu hangen. Ond mae cariad newydd ei mam yn ei hanesmwytho fwy a mwy.
Nofel ydi Pan Fydd Drysau’n Cau sy’n trafod ystyr caru a chael eich caru, a sut I greu bywyd pan na fydd pethau’n ddiogel gartref.
Awdur:
Mae Miriam Halahmy wedi cyhoeddi nofelau, straeon byrion a barddoniaeth i oedolion a phobl ifanc. Mae ei straeon a’i cherddi wedi ymddangos mewn casgliadau, wedi cael eu darllen ar y radio, wedi cael eu perfformio ar lwyfannau, ac wedi cael eu gosod i gerddoriaeth. Cymeriadau cryf a sefyllfaoedd o fywyd go iawn yw cerrig sylfaen ei nofelau. Barn Miriam yw y dylai pawb barchu gobeithion, ofnau, breuddwydion ac, yn fwy na dim, berthnasau pobl yn eu harddegau.
Mae Miriam yn byw yn Llundain. Mae hi’n briod ac mae ganddi ddau o blant sy’n oedolion bellach. Pan na fydd hi’n ysgrifennu, mae hi’n mwynhau paentio, teithio, ymweld â’i hoff le ar lan y môr, a threulio amser yng nghwmni’i theulu.
Mae Miriam yn dal i weithio ar nofelau i bobl ifanc, ac mae’n mwynhau cwrdd â’i
chynulleidfa mewn ysgolion a cholegau ac mewn gwyliau llyfrau o amgylch y Deyrnas Unedig ac ar y cyfandir.