Clawr meddal | Oed 12+ | 198x129mm
Cyhoeddwyd Chwefror 2025| ISBN 9781802587159
Cynnwys:
Pan fydd teulu Jim yn aros yn Dundray, nid yw’r dref yn lle cyfeillgar. Ac yntau’n methu darllen gair, rhaid iddo ddod i ben â mynd i ysgol newydd lle mae’n wynebu plant sy’n ei fwlio ac yn galw enwau arno.
Yna, mae Jim yn cwrdd â Kit. Mae hi’n ei gymryd o dan ei hadain ac yn dangos iddo sut i oroesi. Ond mae rhagfarn ddyddiol a thrais difeddwl yn bygwth distrywio bywydau pob un ohonyn nhw
Awdur:
Ganed Siobhan Dowd yn Llundain i rieni Gwyddelig a bu’n gweithio am ran helaeth o’i bywyd i elusennau hawliau dynol. Dilynwyd The Pavee and the Buffer Girl, ei gwaith cyhoeddedig cyntaf, gan bedair nofel a enillodd dros 65 o wobrau gan gynnwys Branford Boase, Medal Carnegie a Gwobr Bisto. Bu farw Siobhan o ganser yn 47 oed yn 2007, gan adael gwreiddiau A Monster Calls, a gwblhawyd gan Patrick Ness.
Enillodd Fedal Carnegie a llu o wobrau eraill ac mae wedi cael ei haddasu’n ffilm. Cyn ei marwolaeth sefydlodd Siobhan Ymddiriedolaeth Siobhan Dowd sy’n defnyddio enillion ei gwaith i fynd â straeon i bobl ifanc dan anfantais.