Clawr caled | Oed 12+ | 34 tudalen | 297 x 210mm
Cyhoeddwyd Hydref 2022 | ISBN 9781802583311
Mae’r gyfres hon, sy’n llawn gwybodaeth a chymorth, yn bwrw golwg fanwl dros rai materion iechyd meddwl cyffredin sy’n effeithio ar fywydau plant heddiw. Gan weithio i fynd i’r afael â materion iechyd meddwl a dileu’r stigma sydd ynghlwm wrthyn nhw, mae’r teitlau creadigol a ffeithiol hyn yn archwilio cyflyrau iechyd meddwl cyffredin, a’r profiad o fyw gyda nhw.
Gall darllenwyr ddysgu am achosion, symptomau a strategaethau ymdopi ymarferol gan gynnwys meddylgarwch, therapïau siarad a phryd i ofyn am gymorth proffesiynol. Rydyn ni’n edrych ar sut i ofalu am dy iechyd meddwl dy hun a chefnogi eraill o dy gwmpas.