![Llyfr Lluniau Dyslecsia a'i Bobl Ryfeddol](http://graffeg.com/cdn/shop/products/Llyfr-Lluniau-Dyslecsia-a_i-Bobl-Ryfeddol_{width}x.jpg?v=1725028726)
Oed 7+ | Clawr caled | 98 tudalen| 222 x 160mm
Cyhoeddiad Ebrill 2021 | ISBN 9781913733803
Daw dyslecsia’n fyw gyda delweddaeth drawiadol a thestun lliwgar yn y llyfr newydd hwn am beth mae dyslecsia yn ei olygu, sut mae’n teimlo, ei fanteision, a ffyrdd o’I gofleidio.
Trwy ddangos beth yw dyslecsia a thrwy ofyn i’r darllenydd sut mae’n berthnasol iddo, mae’r llyfr hwn yn cyflwyno ffordd ddifyr a diddorol o ddirnad a deall sut mae dyslecsia yn effeithio’n benodol ar unigolion.
Mae’n cynnwys llond trol o adnoddau dysgu a chynghorion, a cheir oriel o bobl â dyslecsia sydd wedi defnyddio eu sgiliau penodol i wneud rhywbeth rhyfeddol â’u bywydau ac sy’n siŵr o’ch ysbrydoli.