Skip to product information
1 of 5

Steve Haines a Sophie Standing

Peth Rhyfedd Yw Gorbryder

Peth Rhyfedd Yw Gorbryder

SKU:9781802583304

Regular price £9.99
Regular price Sale price £9.99
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.

Content

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng ofn a chyffro? Sut mae’r meddwl a’r corff yn creu emosiynau? Pryd gall gorbryder fod yn dda? 

Mae’r canllaw graffeg hwn sy’n seiliedig ar wyddoniaeth yn mynd i’r afael â’r cwestiynau hyn a materion eraill er mwyn dangos pa mor rhyfedd yw gorbryder. Trwy wybod bod gorbryder yn deimlad amddiffynnol sy’n cael ei greu yn y system nerfol, a thrwy ddeall ein greddfau ymladd neu ffoi, gallwn leihau’r ofn a deimlwn yn ystod pyliau o orbryder. Mae gorbryder yn cael ei esbonio mewn fformat graffeg difyr a hawdd ei ddeall sy’n cynnwys cyngor a strategaethau i leddfu ei symptomau. Dysga sut i deimlo er mwyn i ti allu edrych ar fywyd yn fwy cadarnhaol. 

Product Details

Publication date: Hydref 2022

Format: Clawr meddal

Product size: 230 x 170mm

Pages: 32

Suggested Age Range: 12+

About the Author / Illustrator

Mae Steve Haines yn weithiwr ar y corff ers dros 20 mlynedd. Mae deall gwyddoniaeth trawma a phoen wedi trawsnewid ei agweddau at wella. Mae’n byw ac yn gweithio rhwng Llundain a Genefa. 

Mae Sophie Standing yn gweithio fel darlunydd a dylunydd yn Llundain, ac mae’n arbenigo yn y gwyddorau dynol. Mae ei harddull yn cyfuno gwaith digidol a gwaith â llaw, gyda phwyslais ar liwiau cyfoethog, gweadau a chysyniadau trosiadol. 

View full details