ABC yr Opera: Clasurol
ABC yr Opera: Clasurol
ABC yr Opera: Clasurol
ABC yr Opera: Clasurol
ABC yr Opera: Clasurol
  • Load image into Gallery viewer, ABC yr Opera: Clasurol
  • Load image into Gallery viewer, ABC yr Opera: Clasurol
  • Load image into Gallery viewer, ABC yr Opera: Clasurol
  • Load image into Gallery viewer, ABC yr Opera: Clasurol
  • Load image into Gallery viewer, ABC yr Opera: Clasurol

ABC yr Opera: Clasurol

Vendor
Mark Llewelyn Evans a Karl Davies
Regular price
£8.99
Sale price
£8.99
Regular price
Sold out
Unit price
per 

Oed 7-9 | Clawr Meddal | 68 tudalen | 250 x 200mm
Cyhoeddwyd Ebrill 2021 | ISBN 9781913634254

Mae ABC yr Opera yn adrodd straeon gwefreiddiol i blant am gyfansoddwyr opera o’r 500 mlynedd diwethaf hyd at heddiw, trwy gwrdd â’r cyfansoddwyr eu hunain a chlywed eu straeon fel na chawsant eu hadrodd erioed o’r blaen. 

Darganfyddwch stori wefreiddiol opera gyda Jac, Megan a’r Cist sy’n teithio drwy amser.

Mae taith ysgol yn mynd â Jac a Megan i’r Amgueddfa Hanes Naturiol yn Llundain, lle maen nhw’n cwrdd unwaith eto â’u hen ffrind Cist. Wrth ei ryddhau o arddangosyn, cânt eu chwipio yn ôl i’r cyfnod Clasurol (tua 1730-1820) a dinasoedd Salzburg a Paris. Yma maen nhw’n dysgu popeth am y roes bwysig hon yn hanes cerdd gan y crewyr eu hunain.

Wrth gario allan eu tasg o fynd â cherddoriaeth a straeon Wolfgang Wyntog (Mozart, yr athrylith dlawd), Tortellini Rossini (Brenin y Gegin) a Beethoven, oriog a gwydn, yn ôl i’r presennol, yn fuan iawn mae Jac a Megan yn cael eu dal i fyny yn nychweliad Brenhines y Nos, creadigaeth fwyaf drwg Mozart. Pwy fydd yn ennill y dydd ac a all Jac a Megan gadw eu pennau oddi ar y bloc?

Llyfrau yn y gyfres:

Argraffiadau Saesneg:

Mark Llewelyn Evans yw sylfaenydd a chyfarwyddwr creadigol ABC of Opera Productions, sy’n teithio ledled y DU gan gyflwyno plant i straeon a gogoniannau’r opera trwy gerddoriaeth ac adrodd straeon. Mae Mark yn ganwr opera proffesiynol sydd wedi canu prif rolau bariton i lawer o’r tai opera. Mae Mark yn byw yn Llantrisant.

Mae Karl Davies yn ddarlunydd llyfrau plant newydd a chyffrous, ac mae ei waith yn dod â chast a chymeriadau ABC yr Opera yn fyw. Mae Karl yn arlunydd tirlun ac mae’n byw ym Mhontypridd; ef yw darlunydd The B Team a Walking with Bamps, llyfrau plant cyntaf Roy Noble, hefyd.