Oed 5-7 | Clawr meddal | 36 tudalen | 250 x 250mm
Cyhoeddiad Tachwedd 2020 | ISBN 9781913733841
Daw merch i ysgol newydd mewn tref ddiethr. Mae’r plant yn ei dosbarth yn gas tuag ati, yn flin bod dieithryn yn eu plith. Ymateb y ferch yw creu rhywbeth hardd sy’n newid eu hagwedd tuag ati, a thrwy hynny newid eu bywydau a’r ffordd maen nhw’n gweld eu hunain. Dyma stori syml ac iddi neges fydd yn ysbrydoli.
Mae’r awdur Nicola Davies wedi ennill nifer o wobrau, ac ymhlith ei llyfrau i blant mae The Promise (Gwobr Llyfrau Green Earth 2015, Rhestr Fer Greenaway 2015), Tiny (Gwobr AAAS Subaru 2015), A First Book of Nature, a Whale Boy (Rhestr Fer Gwobr Blue Peter 2014). Ymhlith ei llyfrau ar gyfer Graffeg mae Perfect (Rhestr Hir Greenaway 2017), The Pond, Animal Surprises (Rhestr Hir Klaus Flugge 2017), a chyfresi Shadow & Light a Country Tales. Graddiodd mewn swoleg o Goleg yr Iesu, Caergrawnt, gan astudio gwyddau, morfilod ac ystlumod cyn dod yn gyflwynydd ar The Really Wild Show a gweithio yn Uned Hanes Natur y BBC. Bu’n ysgrifennu llyfrau i blant am dros ugain mlynedd, a sylfaen holl weithiau Nicola yw ei chred fod perthynas â natur yn hanfodol i bawb, a bod angen inni adnewyddu’r berthynas honno yn awr yn fwy nag erioed.
Roedd gan Cathy Fisher wyth o frodyr a chwiorydd, a byddai’r plant i gyd yn chwarae yn y caeau’n edrych allan dros ddinas Caerfaddon. Mae wedi bod yn athrawes ac arlunydd drwy ei hoes, yn byw ac yn gweithio ar Ynysoedd y Seychelle ac Awstralia am flynyddoedd maith. Celf yw iaith frodorol Cathy. Pan oedd yn blentyn byddai’n tynnu lluniau ar waliau ei stafell wely, a byth ers hynny mae wedi teimlo bod rhaid iddi beintio a thynnu lluniau o storïau a theimladau am ei bod yn credu bod angen iddynt gael eu clywed. Perfect (Rhestr Hir CILIP Kate Greenaway 2017) oedd llyfr cyntaf Cathy i gael ei gyhoeddi, wedi ei ddilyn gan The Pond a chyfres Country Tales.