Skip to product information
1 of 1

Jim White

Rheoli Straen

Rheoli Straen

SKU:9781913134945

Regular price £8.99
Regular price Sale price £8.99
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.

Content

Mae straen yn rhan annatod o fywyd bob dydd. Mae’n dod i’n rhan ni i gyd. Meddyliwch am bwysedd gwaed: os ydych chi’n fyw, mae gennych chi bwysedd gwaed. Os ydych chi’n fyw, mae gennych chi straen. Os yw eich pwysedd gwaed yn mynd yn rhy uchel, dylech chi wneud rhywbeth amdano; mae’r un peth yn wir am straen. Nod y llyfr hwn yw eich helpu i wneud hynny.

Mae straen yn gallu bod yn gymysgedd o orbryder, iselder, teimladau o banig, cysgu’n wael, diff yg hunanhyder, diff yg hunan-werth a diff yg ymdeimlad o les personol. Ond dydy rheoli’ch straen ddim o reidrwydd yn golygu therapi drud neu fod ar restr aros hir i gael eich atgyfeirio at wasanaeth perthnasol, os ewch chi ati i ddefnyddio’r technegau yn y llyfr hwn i:

  • Ddatblygu set o sgiliau i reoli straen yn y tymor hir
  • Dilyn camau syml i gael ymdeimlad o reolaeth yn syth bìn
  • Dysgu am straen a sut mae’n eff eithio arnoch chi
  • Hybu’ch lles
  • Teimlo bod gennych chi reolaeth o’ch dyfodol

Mae’r llyfr yn hawdd ei ddarllen a does dim jargon ynddo. Mae’n cyfuno dulliau sydd wedi ennill eu plwyf yn glinigol o feysydd therapi ymddygiad gwybyddol (CBT), seicoleg gadarnhaol ac ymwybyddiaeth ofalgar, gan roi’r adnoddau sydd eu hangen arnoch chi i wella’ch meddwl, eich corff a’ch bywyd.

Product Details

Publication date: Mawrth 2020

Format: Clawr meddal

Product size: 197 x 125mm

Pages: 312

Suggested Age Range:

About the Author / Illustrator

MaeJim Whiteyn cael ei gydnabod yn rhyngwladol fel arbenigwr CBT. Dyfeisiodd y dull Rheoli Straen sy’n cael ei ddefnyddio’n helaeth bellach ym mhedwar ban byd. Mae wedi cyhoeddi deugain a mwy o erthyglau mewn cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid ac mae wedi ysgrifennu dau lyfr dylanwadol ar reoli straen. Bu’n gweithio am ddeng mlynedd ar hugain a mwy fel Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol gyda’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ac ef a luniodd y dull ‘Glasgow Steps’, dull arloesol a llwyddiannus tu hwnt o fynd i’r afael â phroblemau iechyd meddwl cyff redin. Mae wedi bod yn Ymgynghorydd Cenedlaethol i Lywodraeth yr Alban ac mae bellach yn Gyfarwyddwr Stress Control Ltd.

View full details