Albert Ben i Lawr
Albert Ben i Lawr
Albert Ben i Lawr
Albert Ben i Lawr
Albert Ben i Lawr
  • Load image into Gallery viewer, Albert Ben i Lawr
  • Load image into Gallery viewer, Albert Ben i Lawr
  • Load image into Gallery viewer, Albert Ben i Lawr
  • Load image into Gallery viewer, Albert Ben i Lawr
  • Load image into Gallery viewer, Albert Ben i Lawr

Albert Ben i Lawr

Vendor
Ian Brown and Eoin Clarke
Regular price
£7.99
Sale price
£7.99
Regular price
Sold out
Unit price
per 

Clawr meddal|Oed 3-5| 36 tudalen|250x250mm
Ebrill 2022|ISBN 9781802580105

Mae gan Albert y crwban anwes broblem. Wrth drio dringo’r graig at rywbeth blasus i’w fwyta, mae Albert bellach ar ei gragen, ben i lawr, ac mae’n sownd! All y creaduriaid eraill yn yr ardd anghofio’u hen gwerylon a chreu tîm o ffrindiau er mwyn helpu Albert? Dyma lyfr llawn lluniau doniol ac annwyl sy’n adrodd stori oesol am gydweithio a meddwl yn greadigol. Mae’n dangos hefyd sut y gall pawb, o bob lliw a llun, siâp a maint, wneud gwahaniaeth. Ar ddiwedd y stori ceir ffeithiau di-ri a difyr am yr Albert go iawn – deinosor bach a llysieuwr o fri – ac ysbrydoliaeth y stori hyfryd hon.

Click here to view the English edition

Llyfr Albert:

 

Ysgrifennydd, chynhyrchydd a chyn-newyddiadurwr o Lundain ydy Ian Brown. Mae ei waith yn cynnwys The South Bank Show, This Is Your Life, Top Gear, rhaglenni dogfen ac adloniant. Ysgrifennodd a chynhyrchodd ar gyfer enwogion fel Pierce Brosnan, Harrison Ford, Simon Cowell, George Lucas, Liam Neeson, Martin Scorsese, Jamie Oliver, a Homer Simpson ymhlith niferoedd eraill. Cyfres Albert yw ei lyfrau plant cyntaf.

Mae Eoin Clarke wedi gweithio am dros 30 mlynedd o fewn y diwydiant animeiddio fel animeiddiwr a chyfarwyddwr - mae ei waith yn y byd ffilm, rhaglenni dogfen, a hysbysebion wedi'u clodi gyda dros drideg o ddyfarniad. Mae ei gleientiaid yn cynnwys y BBC, Channel 4, BFI, a Ray Harryhausen, fel artist byrddai stori, yn ogystal ag animeiddio ar gyfer rhaglenni poblogaidd gydag Harry Hill a Mortimer & Whitehouse: Gone Fishing. Cyfres Albert yw ei lyfrau darluniadol cyntaf.

Adolygiadau:

Ar restr fer Bishop's Stortford Picture Book Award 2022

'Dwi'n hoff iawn o'r llyfr yma, dwi'n hoff o'r dyluniau, a dwi'n hoff o'r awdur. Dwi'n hoffi crwbanod, beth sydd ddim i hoffi?' - Jeremy Clarkson

'Mae'n cwbl anhygoel ac yn annwyl, ac yn darllen hanfodol ar gyfer crwbanod wyneb i waered.' - Paul Whitehouse, Gone Fishing, The Fast Show

'Doniol, dyfeisgar, ac wedi'i ddylunio'n hardd. Mae'r stori wyneb i waered yma yn hyfryd. Mi oeddwn i yn lloni dros Albert o'r dechrau.' - Philip Ardagh, awdur, enillydd Roald Dahl Funny Prize