
Clawr meddal | Oed 3-5 | 36 tudalen | 250 x 250mm
Cyhoeddwyd Mawrth 2023 | ISBN 9781802584752
P’un a yw wedi’i ddal mewn cors gan y Llwynog, yn cael ei fomio gan Was y Neidr, yn cysgodi gan sglodion pren gan Gnocell y Coed neu’n crawcian allan o diwn yn ei gorws bach ei hun, mae’r Broga’n methu’n lân â chael hyd i’w gartref perffaith.
Ond diolch byth, mae’r gwenyn sydd yno bob amser yn creu tipyn o dwrw ac yn galw holl greaduriaid glan y dŵr ynghyd i wneud Cors y Broga yn gors orau’r ardal.
Click here to view the English edition
Dechreuodd Marielle Bayliss ysgrifennu yn dilyn ei gyrfa o fewn y byd theatr. Fel actores a chantores, mae chanddi hi dau albwm Junior Jingles ar iTunes. Yn ei gyrfa actio, ffocyswyd ar hysbysebion, trosleisio a ffilmiau corfforaethol.
Mae Mariela Malova yn ddarlunydd a dylunydd wedi seilio yn Llundain. Ar ôl astudio senograffiaeth yn Academi Genedlaethol y Celfyddydau, Sofia, gweithiodd Mariela yn sawl ochr o’r celfyddydau gweledol, fel dylunio set a gwisgoedd, animeiddio, byrddau stori, creu pypedau a phropiau, ffotograffiaeth a graffeg. Aeth hi ymlaen wedyn i weithio gyda Stephen Saleh ar ei llyfr cyntaf, Raggedy Man Tales.