Skip to product information
1 of 1
Cwestiynau Cyffredin am Ddementia Cwestiynau Cyffredin am Ddementia

Tom Russ a Michael Huddleston

SKU:9781802587579

Regular price £12.99
Regular price Sale price £12.99
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.

Content

Wedi eu casglu gan bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr, a’u hateb gan arbenigwyr profiadol, mae’r llyfr hwn yn cynnig atebion pendant i’r Cwestiynau Cyffredin am Ddementia.

Does yna’r un cwestiwn sy’n rhy syml, yn rhy chwithig neu’n rhy ryfedd i’w gynnwys, ac mae miloedd o bobl fel chi wedi eu holi. Cronfa wybodaeth sy’n rymus, yn ddefnyddiol ac yn ymarferol – gallwch ddarllen y cyfan o glawr i glawr wrth eich pw ysau neu bori’n achlysurol pan fydd angen yr help arnoch. Trwy daflu goleuni ar y meddyliau a’r teimladau sy’n eich gwneud chi’n anghyfforddus neu’n anhapus, bydd eu tynnu o’r cysgodion yn eich helpu i’w deall a’u derbyn.

Product Details

Publication date: Tachwedd 2024

Format: Clawr meddal

Product size: 216 x 135mm

Pages: 160

Suggested Age Range:

About the Author / Illustrator

Mae Dr Tom Russ PhD FRCPsych yn seiciatrydd ymgynghorol yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Lothian ac yn ddarllenydd clinigol anrhydeddus ym Mhrifysgol Caeredin.

Mae wedi gweithio yn y GIG ers 2004, o Caithness yng ngogledd yr Alban i Orllewin Sussex ar arfordir de Lloegr, a sawl lle arall rhwng y ddau. Roedd ei PhD yn canolbwyntio ar ffactorau risg ar gyfer dementia, gan holi’n benodol a yw ble mae pobl yn byw a ffactorau risg amgylcheddol yn bwysig. Mae’n Gyfarwyddwr Alzheimer Scotland
Dementia Research Centre ym Mhrifysgol Caeredin ac yn Hyrwyddwr Ymchwil Glinigol NHS Research Scotland (NRS) Neuroprogressive and Dementia Network. Michael Huddleston yw Ymgynghorydd Dementia Alzheimer Scotland ar gyfer Midlothian ac East Lothian.

Mae’n rhoi cyngor a gwybodaeth i bobl sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd, ac mae’n gweithio’n agos gyda Phartneriaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol lleol i lunio a dylanwadu ar strategaethau dementia a strategaethau penodol i ofalwyr, ac i ddiwallu anghenion ac ystyried barn pobl sydd â phrofiad o fyw gyda dementia.

View full details