Skip to product information
1 of 7

Samuel Pollen

Fy Mlwyddyn Heb Fwyta

Fy Mlwyddyn Heb Fwyta

SKU:9781802584509

Regular price £7.99
Regular price Sale price £7.99
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.

Content

Mae Macs yn bedair ar ddeg oed, a dim ond ag un person y gall e siarad, mewn gwirionedd. Ei henw yw Ana – neu anorecsia, ei anhwylder bwyta. Mae Macs yn ysgrifennu at Ana bob dydd. Mae hi’n bwydo ar ei ofnau, ac yn ei annog i golli mwy a mwy o bwysau.

Mae Macs yn cael anrheg Nadolig anarferol gan ei frawd mawr Robin: geogelc. Mae e’n ei guddio yn y goedwig wrth ymyl eu tŷ, ac mae wrth ei fodd â’r ffaith bod y geogelc yn ei wneud yn anhysbys. Gall unrhyw un adael nodyn i Macs – a chyn hir, mae e’n cael un gan rywun dirgel o’r enw ‘E’.

 

Product Details

Publication date: Gorffennaf 2023

Format: Clawr meddal

Product size: 198 x 130mm

Pages: 120

Suggested Age Range: 12+

Reviews

“Teimladwy, ffraeth ac wedi’i ysgrifennu’n wych.” WRD Magazine

“Sensitif a didwyll o’r frawddeg gyntaf un. Dydy datgelu eich teimladau i bawb eu darllen ddim bob amser yn hawdd, ond mae Sam wedi llwyddo i wneud hynny’n gampus.” Lara Williamson, awdur Just Call Me Spaghetti Hoop Boy a The Boy Who Sailed the Ocean in an Armchair

“Llyfr ingol a gwirioneddol ysbrydoledig yn ymwneud â phwnc sensitif sy’n chwarae â phob emosiwn!” Emma Suffield, Llyfrgellydd Ysgol y Flwyddyn SLA 2018

View full details