Oed 5-7 | Clawr meddal | 36 tudalen | 250 x 250mm
Cyhoeddiad Tachwedd 2020 | ISBN 9781912050086
Llyfr lluniau teimladwy yw Y Pwll am fachgen ifanc, a’i deulu, wrth ddygymod â cholli ei dad. Mae’r llyfr yn lliwgar, yn emosiynol, yn rymus ac yn llawn lluniau natur; mae’n mynd i’r afael â themâu anodd marwolaeth a cholled, ond hefyd â bywyd, cariad a phwysigrwydd byd natur.
Mae wedi’i ysgrifennu gan yr awdur arobryn Nicola Davies a’i ddarlunio gan Cathy Fisher, y ddeuawd sy’n gyfrifol am Perffaith, y llyfr swynol i blant.
'Stori hudolus am gariad a cholled, a sut y gall agor ein llygaid i ryfeddodau byd natur helpu dod â ni at ein gilydd a’n cysuro, hyd yn oed ar adeg o dor calon' meddai Gill Lewis, Awdur Llyfrau Plant
'Mae’r llyfr hwn yn cyffwrdd â’r galon ac yn bleser i’r llygad. Mae’r pwll ei hun yn ddisglair fel gem. Mae Nicola Davies yn ysgrifennu’n farddonol o hardd, a Cathy Fisher yn dangos dealltwriaeth hyfryd o gyfuno testun a lluniau i adrodd stori' meddai Jackie Morris, Awdur a darlunydd.